ANGLADD GWR CYMERADWY.

Bu Mr. Robert Williams, Glanrafon, farw gyda sydynrwydd mawr a than amgylchiadau prudd iawn.

Ymosodwyd arno gan waeledd poenus iawn, ac yn mhen y pum niwrnod symudwyd ef i ysbyty Bangor, lle y bu farw ar y bwrdd tra yr oedd y meddygon yn parotoi i'w law-feddyginiaethu.

Yr oedd yn 71 mlwvdd oed ac yn gymydog hawddgar a phoblogaidd, ac y mae'r holl ardal yn teimlo galar dwys ar ei ôl. Yr oedd hefyd yn dad gofalus a hoffus ac wedi magu teyaid o blant deallgar a dymunol.

Mae'r cydymdeimlad a'r weddw â'r plant yn fawr iawn.

Cymerodd yr angladd ddydd Llun yn Mynwent Llanor. y Parch. John Evans, B.A., yn gwasanaethu wrth y tŷ a'r Parch T. E. Shepherd Jones yn yr eglwys. Dywedir na welwyd angladd mwy yn yr ardaI ers pymtheng mlynedd.

Yr Herald Gymraeg 12/08/1919