YN GANT OED.

Hysbysir am farwolaeth Mrs Williams, mam Mr. Robert Williams, Glanrafon, yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth, a hi yn gant oed.

Yr oedd yn hynod o heinyf a chryf i'r diwedd a gallai ddarllen ei Beibl yn rhwydd heb gymorth gwydrau.

Yn ardal Penllech y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes, ond symudodd at ei mab i Glanrafon yn ddiweddar.

Yr Herald Gymraeg 28/11/1916