NEFYN. ANGLADD CAPT. ROBERTS, Y GROES.
Ddydd Mawrth diweddaf, yn mynwent Nefyn, claddwyd gweddillion Capt. John Roberts, Y Groes (Ty Mawr, Pentreuchaf, gynt), ac efe yn 83 mlwydd oed.Yr oedd efe yn un o'r rhai gymerai ran yn Rhyfel y Degwm tua phum mlynedd ar hugain yn ôl, ac yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn ac egwyddorol ar hyd ei oes.
Bu'n warcheidwad ar Undeb Pwllheli dros blwyf Llannor am flynyddau, ac yr oedd yn aelod cyd-ddewisol o'r Bwrdd hyd yn ddiweddar iawn.