LLYS ARBENIG.
Mewn llys arbenig fore Sadwrn, gerbron yr Henaduriaid W. Anthony a Maurice Jones a Dr. R. Jones Evans, cyhuddwyd Maggie Roberts, Groeslon, o ladrata cadwen arian, locket a brooch, gwerth 30s., eiddo ei meistres, Mrs Owen Jones, Ty Mawr, Llannor.Tystiodd ei meistres i'r gyhuddedig ymadael o'i lle y dydd Mercher cynt, a chanfuwyd colli y pethau a enwyd ar ôl iddi ymadael.
Tystiwyd gan y Rhingyll Lloyd y caed yr eiddo ladratawyd yn meddiant y gyhuddedig yn y Groeslon.
Rhwymwyd yr eneth drosodd i iawn ymddwyn am chwe mis.