ER COF.

Nos Sadwrn, 20ain cynfisol, bu farw y brawd, Mr. William Hughes, yn ei breswylfod, Tŷ Capel. Llwyndyrus, ac efe yn 30 mlwydd oed.

Mab ydoedd i Mr a Mrs Thomas Hughes, Penyclawdd. Nid oedd ond ychydig fisoedd er pan y penodwyd ef gan y Cyngor Dosbarth yn un o'i gweitwyr ar y ffyrdd, ac yr oedd wedi profi ei hun yn weithiwr diwyd yn y lleoedd y bu ym gwasanaethu. Yr oedd yn ŵr ieuanc caredig, parod ei gymwynas, heinyf a golygus yr olwg, ac yn aelod ffyddlon a gwasanaethgar o Eglwys M.C. Llwyndyrus, ac yn ddiameu y gwel y gymdogaeth yn ogystal a'i eglwys chwithdod o'i golli mewn gwahainol gyfeiriadau.

Claddwyd dydd Iau diweddaf yn Carn- guwch.

Cydymdeimlir a'i briod a'r teulu oll yn eu dwfn alar.

Yr Herald Gymraeg 08/04/1919