TRI GWRON O LEYN.

Mae tri mab i Mr a Mrs Robert Williams, Bryn Moel, Llanor yn gwasanaethu yn y rhyfel.

Mae dau ohonynt. sef Private Robert Williams a Private John Williams yn fechgyn eithriadol o dal a heinyf ac y maent yn awr yn ymladd gyda'r Welsh Guards yn Ffrainc. Perthynai Robert i Heddlu Caerdydd, ac ymunodd a'r fyddin ar doriad allan y rhyfel. Mae ef wedi ei ddyrchafu i'r 'Head Quarters' staff. Yr oedd Private John Williams yn gweithio yn y De, ac ymunodd yntau a'r fyddin yn ddioed. Er nad yw ond ychydig dros ei 18 mlwydd oed y mae ef yn ddwy lath a modfedd a haner o daldrai, ac vn pwyso naw ugain. Efe oedd y cyntaf yn Bargoed, De Cymru, i ymuno a'r Welsh Guards.

Perthyna Private William Williams i'r R.W.F. ac y mae yn awr yn paratoi ar gyfer ei yrfa filwrol yn y wlad hon. Nid yw ef o gyfansoddiad mor gadarn a'i frodyr, a gwrthodwyd ei dderbyn i'r fyddin amryw droion. Ond yr oedd yn bendenfynol o fynu ymuno a diangodd i Gaernarfon un dydd, lle y llwyddodd i fyned i'r fyddin.

Edrydd Private Robert Williams hanes dyddorol iawn am un o'r Germaniaid. Yr oeddynt yn agos iawn i'w gilydd un tro, a chlywyd gwaeddi a chwerthin mawr yn ffosydd y gelyn. Yn y man clywsant un o'r Germaniaid yn gofyn yn Saesneg a wyddent ym mha le yr oedd Abertawe yng Nghymru. Atebasant hwythau eu bod yn gwybod yn dda am y lle, ac atebodd yntau yn ôl fod ganddo wraig a phlant, a llu o bethau eraill yn y lle hwnw.

Dyma gopi o lythyr dyddorol a anfonodd adref.

Mae hi'n dywydd braf iawn yma, ac yr ydym yn yr un fan o hyd. Cawsom ein harolygu ddydd Gwener gan Arglwydd Craven. Roedd yma bedair bataliwn a gwnaethom 'march past' a'r band yn chwareu 'Gwyr Harlech' wrth i'r Welsh Guards fynd heibio. Roedd yn ddigon i godi gwaed pob Cymro wrth ei chlywed, a meddiwl ein bod yn Gymry bron bob un. Nid wyf yn credu fod yma well stwff nag sydd.yn y W. G. Cawsom gonsert eto neithiwr, a gwnai i ni feddwl ein bod yng Nghymru wrth glywed y canu. Canodd y caplan rhyw hen gan Gymreig yn ardderchog a da oedd gan lawer, fel finau, ei chlywed yn cael ei chanu yn yr hen iaith.

Fe all eich bod yn poeni rhywfaint am danom, ond y rydym yn bur hapus. 'Rydym yn cysgu ar wellt mewn hen ysgubor, ond beth ydym yn hidio! Rydym yn cael gwell bwyd yma na llawer i was fferm yng Nghymru, ond y mae yn fwy anhawdd i'w wneyd mae yn ardderchog wrth feddwl ein bod allan ar faes y rhyfel.

Nid ydym wedi bod yn y firing line eto ond rydym yn edrych yn mlaen gyda hyder am gael mynd yn fuan.

Yr Herald Gymraeg 18/01/1916


GOLYGFEYDD TORCALONUS.

Llythyr oddiwrth Filwr o Leyn.

Wele lythyr dyddorol anfonwyd o Ffrainc gan Private Robert Wîlliams Welsh. Guards (mab Mr a Mrs Williams, Bryn Moel, Llannor), darlun o'r hwn ymddangosodd yn yr "Herald Gymraeg" yn ddiweddar :-

Daethom o'r trenches nos Wener am wyth awr a deugain, ac yr ydym yn mynd i mewn eto heno am 48 arall. Y noson o'r blaen, oddeutu wyth o'r gloch, 'roeddwn yn edrych arnynt yn cynyg ymosod ar y Germans. 'Roeddem yn disgwyl yr amser, a dyma fo yn dod - yr holl batteries yn tanio ar unwaith, a gyda bod rheini yn tanio dechreuodd y machine guns a'r rifles hefo'u gilydd, a. dyma'r Germans yn dechreu bobio (dyna fyddwn i'n ei ddweyd am rhywun dipyn yn nrevous), a'r rockets yn dechrau cael eu taflu - roeddynt yn bob lliwiau, gwyn, coch a gwyrddd.

'Rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn y dynion mwyaf creulawn yn Germani, sef y Prussian Guards. Y nhw yw y dynion wnaethant yr holl amhaith yn Belgium. Ond yr ydym wedi bod yn erbyn gwell, y Saxoniaid. Mae yma olygfeydd torcalonus iawn weithiau.

'Roeddem mewn pentref bach rhyw ychydig amser yn ôl a dyma'r moch yn dechrau shellio'r lle, ac mi oedd hi yn dorcalonus gweld y merched a'r plant bach yn rhedeg o'r ffordd.

Ond 'rwan yr ydym mor hapus ac mae modd yr ydym yn mynd i'r trenches 'run fath a phe baem yn mynd i'r gwaith dan ganu siarad a smocio. Cawn ddigon o faco a cigarettes yma, a fuasech chi byth yn credu faint y maent yn ein cysuro ni yma. 'Rwyf newydd dderbyn chwarter o faco. Matches yw y pethau prinaf yma - ceiniog am focs bach pryd y caech ddau am ddimau yn Lloegr.

Wel, 'rwyf yn gweled eich bod yn gwneud gwaith da yn Lleyn ac Eifionydd trwy gasglu wyau i filwyr clwyfedig. Mae'n wir eu bod yn rhagorol i fagu cryfder ar ôl y fath amser ag amgylchiadau ag yr ydym ynddynt yn ddyddiol. Pe buaswn gartref buaswn fwy abl i ddesgrifio y pethau 'rwyf wedi bod yn llygad dyst ohonynt. Y mae'n lled debyg eich bod wedi darllen hanes y gatrawd hon, fel gwneuthom rhythr am y tro cyntaf.

Mae'n hynod o ddyddorol gwylio ein gynau yn chwythu eu ffosydd a'u dug outs yn mynd i fyny i'r awyr. Mae'n ddigon hawdd dweyd ein bod yn well dynion a'r holl bethau yna rwan. Am bob un shell a daflent hwy atom ni maent yn cael hanner dwsin i ddwsin yn ôl. 'Roeddwn yn gwylio eu shells yn dod drosodd un diwrnod. Taflasant wyth drosodd; tair wnaeth danio o'r wyth, ac fe allech ddweyd yn ôl amcangyfrif, nad yw eu hanner yn ffrwydro. Ond mae naw o bob deg o'n rhai ni yn ffrwydro, ac y maent yn gwneyd difrod dychrynllyd.

Byddaf yn cael yr "Herald Gymraeg" gan Mr Williams Ellis, Glasfryn Plas gynt (mae ef yn swyddog hefo ni yma), a byddaf yn cael pleser mawr wrth ei ddarllen.

Yr Herald Gymraeg 08/02/1916