YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mr. Maurice Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mri. G. Hughes Roberts, William Thomas, a Dr. Gwenogfryn Evans.

Cyhuddwyd William Elias Jones, Penybont, Penprys gan Lewis Jones, Tynllwyd, Rhosfawr, o fod yn Cors Tynrhos yn trespasu mewn ymchwil am helwriaeth. Dywedodd yr erlynydd iddo weled y diffynydd gyda chi a gwn ar y tir a chlywodd ergyd.

Gan nad oedd tystiolaeth sicr o berthynas i eiddo pwy oedd bia'r y sporting right ar y lle taflwyd yr achos allan.

Yr Herald Gymraeg 04/11/1919