PRIODAS.

Heddyw (ddydd Mawrth) yn nghapel Penmount, Pwllheli, unwyd mewn glan briodas Mr John Thomas, Evans, Ty Corniog, Llannor, a Miss Alice Jones, merch ieuengaf Mr a Mrs J. Jones, Ty Isaf, Rhydyclafdy.

Mr David Evans, brawd y priodfab, oedd y gwas, a Miss Ellen Jones, chwaer y briodferch, oedd y forwyn.

Rhoed y briodferch ymaith gan ei thad. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch Robt. Roberts, gweinidog Rhydyclafdy, ym mhresenoldcb Mr O. Rowlands, y cofrestrydd.

Wedi'r cinio priodasol yng Ngwesty'r Gwalia, baratowyd gan Mrs Walis Thomas, ymadawodd y par ieuanc am Lerpwl i dreulio eu mis mel.

Yr Udgorn 24/11/1915