MARW YN HEN.
Gofidus genym gofnodi marwolaeth Mrs Mary Owen, Waterloo House, o'r pentref uchod, a phriod y diweddar Mr. William Owen, Shop Sarn, a hi wedi cyraedd yr oedran o 90.Cafodd gystudd maith, yr hwn a ddioddefodd yn dawel a dirwgnach. Merch ydoedd Mrs Owen, i Thomas a Janet Morris, Monachdy, a hanai o deulu yr hen Forusiaid adnabyddus.
Yr oedd yn Eglwyswraig selog yn ei dyddiau. Er hyny oll lletyodd lawer o weinidogion Ymneillduol gyda charedigrwydd a phob sirioldeb. Yr oedd yn gymydoges garedig a hael, yn onest a thawel yn ei masnach, a gofalai bob amser na byddai neb yn ei chylch yn dioddef eisieu mewn unrhyw wedd.
Rhoddwyd ei gweddillion i orphwvs ym meddrod ei phriod yn Mynwent Meillteyrn.
Gedy saith o feibion ac un ferch i alaru ar ei hôl, o ba rai y mae dau or meibion yn yr America.
Teimlir colled nid bychan gan y pentrefwyr ar ei hol.