PRIODAS.

Dydd Mercher Ionawr 30ain, yng Nghapel Salem {M.C.), Dolgellau, priodwyd Miss Elizabeth Jane, merch ieuengaf y diweddar Mr a Mrs W. Owen, Waterloo House, Sarn, a Mr John Hughes, meddyg anifeiliaid, Tanyrallt, Trallwn.

Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr W. Owen, goruchwyliwr N.P. Bank, Caernarfon. Y gwas oedd y Parch Thomas Hughes (W.), Portdinorwig (brawd y priodfab), a'r forwyn Miss Hughes, B.A., Towyn.

Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Mordaf Pierce, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Thomas Hughes a'r Parch D. Thomas (W.). Dolgellau.

Ar ôl cyfranogi o foreufwyd yn y Ship Hotel, ymadawodd y par dedwydd am Aberystwyth, lle y treulir y "mis mel."

Yr Herald Gymraeg 05/02/1918