MARW YN IEUANC.

Yn fore dydd Llun, Gorphenaf 7fed (fel yr hysbyswyd yn yr "Herald" diweddaf) bu farw Mary Jones, merch ieuengaf Mrs J. Jones, Penybont Hotel, Sarn, a hi o fewn ychydig ddyddiau i gyrraedd ei hugain mlwydd oed.

Cafodd gystudd caled am ysbaid o saith wythnos, pa un a ddioddefodd yn hollol dawel a dirwgnach. Yr oedd yn eneth ieuanc hoffus, a byddai sirioldeb yn nodweddu ei gwynepryd bob amser.

Y dydd Iau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohoni i Fynwent Eglwys Meillteyrn wrth ochr ei diweddar dad, sef Mr. T. M. Jones (angladd angyhoedd). Yn bresennol yr oedd nifer o berthynasau a chyfeillion.

Yn blaenori yr oedd y Parch W. S. Williams, Bottwnog, a Dr. Owen, Abersoch, yna yr elorgerbyd, yn nesaf Tommy Jones (brawd), a Morris Jones, Brynmor (cefnder), Mri. Griffith Owen, Waterloo House, a O. M. Jones, Manchester (ewyrthod), Mri. T. M. Hughes, Monachdy, a W. Roberts, Chwilog (ewythrod) Mri. R. G. Williams, Porthdinllaen, a E. Jones. Bodisaf, Aberdron; Mri. H. Williams, Myfyr Bach, ac R. Williams, Gelliwig; Mri. W. Roberts, Rhiw Manganese Co., a E. Roberts, Tyddyn; Mri. E. J. Evans, Isgraig, a T. Jones, Gwylfa.

Gwasanaethwyd ar yr achlysur yn y tŷ a'r eglwys gan y Parch W. Sylfanus Williams, rheithor, Bottwnog a Meillteynn. Trefnwyd gweithrediadau yr angladd gan Mr. G. Owen, Waterloo House, Sarn.

Fel arddanghosiad o barch a chydymdeimlad anfonwyd nifer fawr o flodeudyrch hardd, yn mhiith par rai y gwelsom enwau y rhai a ganlyn: Mami a Tommy (mam a brawd); Janet, Annie, Jeannie a Morris (chwiorydd a brawd) Uncle Owen, Manchester, Uncle Gutto, Uncle a Auntie. Monachdy, Miss Cannie Hughes, Pretoria; Mrs Evans, Tvncoed a'r teulu; Mr. R. Hughes, London. Terrace. Pwllheli; Mrs Jones a'r teulu Tocia; Mrs Griffith, Lerpwl; Mr a Mrs Griffith, Penrhyn Arms Hotel; Mr a Mrs Parry, Nantycarw; Misses M. a A. Thomas, Pensarn; Mrs Roberts, Pretoria Terrace; Mr a Mrs Thomas, Police Station; Misses H. a R. Thomas, eto; Miss J. F. Griffith, Salem Terrace; Lizzie a Jeannie Roberts, Pensarn; Ruth Roberts, Caer; Mr a Mrs Jones, Belle Vue Cottage; Kate Jones, eto.

Mawr gydymdeimlir â Mrs Jones, ynghyd a'r brodyr a'r chwiorydd yn awr ddu ei profedigaeth annisgwyliadwy.

Yr Herald Gymraeg 22/07/1919