SARN MARW BLAENOR.

Prudd gennym gofnodi am farwolaeth ein hanwyl gyfaill. Mr. Robert Jones, Hope House, yr hyn a gymerodd le nos Wrener, Mawrth 28ain, yn bur sydyn.

Yr oedd yn ddiacon ffvddlon gyda'r M.C., yn Salem, Sarn, a bu'n arweinydd y gân am gyfnod maith. Gŵr cadarn oedd efe yn yr Ysgrythyrau, yn ddarllenwr mawr, yn feddyliwr dwfn, cyson wrth yr orsedd gras, ac yn weithgar yn Winllan yr Arglwydd. Yr oedd yr Ysgol Sul yn agos iawn at ei galon. Dilynodd hi am flwyddi maith heb absenoli un Sul, nes i'w iechyd dorri i lawr.

Yr oedd yn barchus o bawb ac yn ŵr hoffus yn ei ardal. Chwith gennym feddwl na chlywir ei lais mwyach, na'i weddiau taer.

Claddwyd ei weddillion marwol ym mynwent Bryncroes, y dydd Iau dilynol, pryd y gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. T. J. Jones, B.A., Sarn, ac R. Lloyd Edwards, Ty Mawr. ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch T. E. Owen. Aberdaron.

Yr oedd y dorf luosog a dalodd y gymwynas olaf yn dystiolaeth ucel iddo fel cymeriad dymunol, tawel, a chymeradwy iawn yn ein plith.

Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'r plant, o golli un mor annwyl o'r teulu.

Yr Herald Gymraeg 22/04/1919