Marw Mr. D. R. Jones, Crugeran, Sarn.

Ddydd Iau, wythnos i'r diweddaf, wedi hir waeledd, bu farw y ffermwr adnabyddus, Mr David R. Jones, mab y diweddar Mr a Mrs D. R. Jones, Crugeran, Sarn, yn 36ain mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r ffermwyr mwyaf poblogaidd yn y Sir, a mynych y byddai galwad arno i feirniadu mewn amryw arddangosfeydd pwysig drwy bob rhan o Gymru a Lloegr.

Yr oedd yn ddyn ieuanc hoffus a boneddigaidd, a'i ymarweddiad a'i fuchedd yn ddilychwin. Bu'n hael ei law wrth y tlawd a'r anghenus yn yr ardal, a theimla y cyfryw bobl heddyw golled anadferadwy ar ôl y fath foneddwr haelionus.

Yr oedd yn Eglwyswr egwyddorol ac aiddgar, a chymerai ran faenllaw, fel ei ddiweddar dad, ymhob symudiad yn yr ardal. Cafodd gystudd trwm am hir amser, a gorfu iddo fyned ddwywaith dan weithred law-feddygol. Dioddefodd ei gystudd yn hollol dawel a dirwgnach.

Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i dawel orffwys yn mynwent henafol Meillteyrn y dydd Llun dilynol - angladd anghyhoedd. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn Sylfanus Williams, Bottwnog; T. E. Owen, M.A., Aberdaron, a W. Morris, Llandwrog. Anfonwyd nifer o flodauglymau heirdd.

Cydymdeimlir yn fawr a'i chwaer, Mrs Roberts, Llymgwyn, a'r teulu oll yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 23/06/1915

MARW'N IEUANC

Ddydd Llun, dygwyd gweddillion Mr. D. R. Jones, Crugeran i orffwys i gladdfa'r teulu ym mynwent Meillteyrn.

Yr oedd efe yn hysbys ddigon trwy Ogledd Cymru fel un enillodd wobrwyon lawer gyda'i anifeiliaid ardderchog yn yr arddangosfeydd, ond y blynyddoedd olaf weithredai fel beirniad craff a diduedd ynddynt.

Yr oedd yn ddyn ieuianc, hawddgar a siriol. Bu farw yn 36 mlwydd oed gan adael chwaer, Mrs. Roberts, Ystumllyn, i alaru ei cholled.

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915