MARWOLAETH.
Dydd Sadwrn, y 19eg cyf, claddwyd yr hynafgwr hoffus, Mr. Robert Roberts, gôf, Sarn ym mynwent Dinas.Bu yn flaenor ffyddlawn yng nghapel henafol Tymawr, am gyfnod o 45 o flynyddoedd.
Yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn, a goleuedig.
Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth claddu gan y Parchn,. M. E. Morris, Minffordd; J. T. Jones, B.A.. Brynmawr, ac R. Lloyd Edwards, gweinidog. Bu farw yn 88 mlwydd oed.
Yr oedd yn 10 oed pan yr esgynnai Victoria i'r orsedd.