LLYS TRWYDDEDOL PWLLHELI.
Cynhaliwyd Llys Trwyddedol Pwllheli ddydd Mercher, geribron Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd). Maurice Jones, J. G. Jones, Dr. S. W. Griffiths, W. W. Griffiths.TY NEWYDD SARN.
Gwrthrwynebodd Mr. George, ar ran y Gymdeithas Ddirwestol, adnewyddu. trwydded Ty Newydd, Sarn, i Mr. Robert. Williams am fod gormod o dafarnau yn yr ardal.Rhoed tystiolaeth gan Mr. R. O. Williams (Ap Plenydd), Criccieth, a Mr. J. G. Jones, Pwllheli.
Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran y tafarnwr a thystiodd Mr. Robert Griffiths, Belle View, fod angen y dafarn yn yr ardal.
Caniatawyd y drwydded.