MORFA NEFYN ER COFFA TYNER.
am Evan Evans, Llain Fadryn, Morfa Nefyn, a fu farw yn Awstralia, Gorff. 10, 1919, yn 25 mlwydd oed.Yr isod sydd ddarlun o'n diweddar gyfaill ieuanc, Mr. Evan Evans, yr hynaf o feibon y diweddar Gapten William Evans a Mrs. Ruth Evans, Llain Fadryn, Morfa Nefyn. Bu farw Gorff. 10fed, 1919, o'r pneumonia influenza, wedi chwe' diwrnod o salwch, yn Cottage Hospital, Coledale, New South Wales, ac efe eto ond 25 oed.
Fel ei dad o'i flaen, Capten William Evans, llongwr hefyd oedd Evan wrth ei alwedigaeth. Wedi hwylio llawer bu farw tad ein cyfaill ieuanc ryw dair blynedd yn ôl. Gadawodd Evan Evans ei long yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl a phenderfynodd ymsefydlu am dymor byr yn Awstralia. Ond tra yno ymunodd a Byddin Awstralia yn amser y rhyfel a gwnaeth wasanaeth milwrol yn y Dardanelles o dan y Cadfridog enwog, Syr Wm. R. Birdwood.
Cafodd ei ddyrchafu yn lance-corporal yn y signaling station. Wedi ymuno a'r Fyddin yn 1914 a chael ei alw i'r Derdanelles, ni bu yn hir cyn eael ei glwyfo, a bu am bum' mis yn yr ysbytai mewn gwahanol leoedd.
Dychwelodd yn ei ôl i Awstralia wedi hynny, a thra yno ymbriododd â Miss Elizabeth Louisa Fish, merch i deulu a hanai yn wreiddiol o Newcastle, o'r wlad hon. Pan oedd haint dinistriol y flu ym misoedd cyntaf y flwyddyn yn lledaenu yn Awstralia syrthiodd yntau, fel cannoedd eraill, yn aberth iddo. Cafodd ei gladdu ym mynwent gyhoeddus Scarborough, New South Wales. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan ficer y lle, - y Parch F. A. Reed. Cafodd er ymhell o'i wlad enedigol, angladd parchus. Dyma fel yr ysgrifennad un oddiyno i'w gartref ym Morfa Nefyn. "Flowers and messages of sympathy were sent by hosts of friends." Cysur i'w deulu, y rhai na chawsant y cyfle prudd o dalu'r gymwynas olaf iddo yw meddwl am y parch a dalwyd iddo ar ddiwrnod ei angladd.
Pedwar diwrnod ar ôl ei gleddedigaeth rhoddodd ei briod alarus enedigaeth i'w chyntaf anedig - bachgen bychan- a gelwir y bychan ar enw ei ddiweddar dad, yn Evan Richard. Mor brudd! Hanai ein cyfaill ieuanc, o'r ddwy ochr, o hen deuluoedd crefyddol a chyfrifol ym Morfa Nefyn. Y mae ei fam weddw yn chwaer i'r cenhadwr enwog, Dr. Griffith, sydd wedi gwasanaethu ei Arglwydd am gyfnod maith, ac yn llwyddiannus, ar Fryniau Casia. Yr oedd yr ymadawedig, yntau, wedi ei ddwyn i fynu gyda'r Methodistiaid ym Morfa Nefyn, ac yn dilyn traddodiadau'r teulu mewn ystyron crefyddol. Cafodd ei ddwyn i fynu yn y Gobeithlu a chyfarfodydd eraill ei eglwys, a pharhaodd yn aelod ohoni hyd ei ddiwedd! O ran ymddanghosiad corfforol, bachgen glandeg a thal oedd Evan Evans a'i holl symudiadau yn arwyddo penderfyniad a gwroldeb dynol. Yr un amser yr oedd ei natur yn gyfoethog o'r addfwyn a'r tyner. Ceid ynddo addewid o bersonoliaeth brydferth a chymeriad pe cawsai fyw. Yr oedd yn fachgen unplyg a chywir, a hoffid ef gan bawb a'i hadwaenai.
A chwithdod mawr yw'r syniad o'i golli mor gynnar ar ei oes. Diddaned yr Arglwydd ei briod weddw, ei fachgen ammdifad, ac hefyd ei fam, chwiorydd a'i frawd, yn eu profedigaeth chwerw.
A bydded efe iddynt, "er marw, yn llefaru eto."