Llys Sirol Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mawrth, gerbron y Barnwr W. Evans.COLLI AR Y "CANGANIAN."
Hawliai Mr. a Mrs. G Owen, Isfryn, Morfa Nefyn, y swm o 300p o iawn dal, ar ôl ei mab Hugh David Owen, yr hwn a fu foddi gyda'r Llong "Canganian," a suddwyd gan y gelyn.Ymddangosai Mr. B. H. Newmans, Liverpool, yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. Gunn, o Swyddfa Mri. E Davies and Jones, dros yr hawlyddion, a Mr Lindon Riley, yn cael ei gyfarwyddo gan Mri, Carter Vincent and Co., dros y Cwmni.
Dywedai yr hawlyddion eu bod yn dibynu yn gyfangwbl ar eu mab a'i fod yn enill ar gyfartaledd 8p y mis, ac yr oeddynt hwy yn derbyn ei enillion. Yr oedd y tad yn derbyn blwydd-dal. Yn ateb i Mr. Riley, dywedant nad oedd y mab yn y môr bedair biynedd yn ôl, pan ddarfu iddynt hwy arwyddo i Swyddog y blwydd-dal, nad oeddynt yn derbyn dros 42p. y flwyddyn. Yr oedd tair merch yn byw gartref, y mae un o honynt yn briod. Yr oedd ei gŵr yn ei chadw hi.
Tystiai Miss Anne Owen, y ferch, ei bod yn enill oddeutu 5s yr wythnos fel Dressmaker. Dangosodd dri o lythyrau a anfonodd ei brawd gartref, yn y rhai y cyfeiriai at y symiau o 13p, 10p a 8p oedd yn anfon adref.
Dadleuai Mr. Riley nad oedd yr hawlyddion yn meddu hawl i'w costau yn yr achos. Yr oedd y Cwmni yn hollol foddlon i dalu swm rhesymol o iawn ond iddynt gael prawf teg o'r berthynas a'r graddau y dibynwyd ar y sawl fo wedi colli. Nid oedd ef wedi gweled y llythyrau a ddangoswyd yn y Llys o'r blaen, a gwrthodwyd eu dangos i'r Cwmni, er iddynt ofyn am danynt.
Nid oedd deddf iawn-dal, wedi ei gwneyd er budd cyfreithwyr, ond er budd y tlodion, a chan fod y Cwmni yn meddu ar hawl i brawf o'r ddibyniaeth, daliai nad oedd yn deg i'w dal yn gyfrifol i dalu costau y Llys. Daliai hefyd nad oedd y teulu mor ddibynol ag yr honid, ar yr ymadawedig, ac nad oedd yn cyfranu mwy na 3p. neu 4p y mis iddynt.
Dyfarnwyd 100p, o iawn a'r costau i'r hawlyddion.
Yr Udgorn 18/04/1917
MARW HENAFGWR.
Bu farw Mr. Griffith Owen, Isfryn, Morfa Nefyn, ac efe yn 85 mlwydd oed. Cymerodd yr angladd le ddydd Gwener yng Nghladdfa Gyhoeddus Nefyn. Gwasanaethwyd gan y Parch. G. P .Hughes, Morfa Nefyn.Un o hen drigolion y fro oedd Mr. Griffith Owen, ac fel y dywedodd un a'i adwaenai yn dda am dano, "cymeriad da, distaw a diabsen oedd Griffith Owen." Chwith yw meddwl fod dynion sydd yn asgwrn cefn cymdeithas fel hyn yn ein gadael—dynion sydd wedi cael eu trwytho yn egwyddorion ac argyhoeddiadau dyfnion bywyd.
Y mae'r golled i'r ardaloedd yn un nas gellir ei phrisio.
Cydymdeimlir a'i briod a'r teulu oll.