Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher, Awst 27ain.

O flaen Cyrnol Gough yn y gadair yr Henaduriaid Maurice Jones a G. Hughes, Dr Gwenogfryn Evans, Dr S. W. Griffith, a William Thomas, Ysw.

Achos o Morfa Nefyn.

Cyhuddid Hugh Hughes, Ty'n Lon, Morfa Nefyn gan Capten Roberts, Glan Arfor, o fod wedi ymosod arno ar Awst 21 ain. Yr oedd y cweryl rhyngynt wedi dechreu, medd Mr W. George, yr hwn a ymddangosai tros yr erlynydd, ers tua flynedd yn ôl ynghylch matresi oedd y ddau wedi brynu mewn arwerthiant yn Nefyn.

Cyhuddid Capt Jones a'i wraig gan y diffynydd a'i wraig yntau o fynd a matres oedd yn perthyn iddynt hwy, a phan aed a'r mater i'r llys dyfarnwyd yn ffafr Capt. Jones. Ond cai Capt. Jones a'i wraig eu cyhuddo ganddynt o hyd o'r lladrad. Dechreuodd gwraig y diffynydd gyhuddo Capt. Jones mewn siop yn Morfa Nefyn, nos Iau, Awst 21ain. Gyda hyny aeth y diffynydd, Hugh Hughes, i mewn i'r siop a llusgodd Capt. Jones allan, a tharawodd ef yn ei ben hefo'i ddwrn amryw weithiau.

Addefai y diffynydd ei fod wedi llusgo Capt. Jones o'i siop. Nis gallai oddef ei glywed yn dweyd pethau cas wrth ei wraig ef yn y siop, meddai, o flaen y cwsmeriaid.

Yr oedd ef (y diffynydd) yn barod i wneud ymrwymiad na byddai iddo aflonyddu ar yr erlynydd drachefn, ond dymunai ddweyd fod gwraig yr erlynydd yn aflonyddu ar ei wraig ef beunydd.

Pasiodd y Fainc ddirwyo'r diffynydd i 5s. a'r costau, yn gwneud cyfanswm o 2p. 13s. 6c., a'i rwymo drosodd am ddeuddeng mis yn y swm o 5p. - i gadw'r heddwch.
 

Yr Udgorn 03/09/1913