Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron Mr J G. Jones, ac ynadon eraill, cyhuddwyd Ellis Jones, Tanllan, Nefyn, a David William Davies, Liverpool House, Nefyn (milwr wedi colli ei fraich yn Ffrainc) o ladrata cig dafad.Eglurodd yr Arolygydd Owen, yr hwn a erlynai, fod y ddau ddyn wedi eu gweled tuag un o'r gloch foreu Sul yn dod allan o Tower Stores. Am resymau arbenig gwyliai yr Heddwas Evans y tŷ. Aeth y dynion, ar ôl dod allan o'r ty, yn ôl i'r cefn. Gwelai un ohonynt, ond ni welai y llall. Daeth y ddau allan i'r ffrynt, a phan oeddynt gyferbyn a'r tŷ aeth yr heddwas i'w cyfarfod, a rhedodd y ddau ymaith.
Bu i Evans ddal Jones a dod ag ef yn ôl i Tower Stores. Curodd yn y drws a daeth Mrs Margaret Jones i'w agor. Gwrthododd ganiatau iddo archwilio'r tŷ, a phan oedd hi yn y llofft clywodd rywbeth yn disgyn ar y palmant, a phan aeth allan yr oedd yno ddwy leg o lamb ar y palmant. Aeth a hwy yn ôl i'r tŷ, ond gwadai Mrs Jones ei bod yn gwybod dim am danynt.
Daliodd Davies tuag 11 o'r gloch yn y boreu, a chadwyd y ddau yn y ddalfa.
Tystiodd Mr John Roberts, cigydd, fod rhywun wedi tori i'w fasnachdy a lladrata dwy ochr o fyton a dwy ysgwydd oddiyno. Rhoed tystiolaeth gan yr Heddwas Fvans, ac anfonwyd y ddau i garchar am dri mis gyda llafur caled.
Cydnabyddent eu heuogrwydd.
Cyhuddwyd Margaret Jones, Tower Stores, Nefyn, o dderbyn eiddo wedi ei ladrata. Ymddangosai Mr W. George i amddiffyn, ac ar ei gais gohiriwyd yr achos am wythnos.