MARW TRIST.
Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy Mrs Catherine Davies, Penrhos.Ymddengys ei bod wedi myned ar ymweliad a'i nith, Mrs Cadben Williams, i Gravesend, a thra yno y daeth y diwedd. Ddydd Iau diweddaf daethpwyd a'r corff yma i'w gladdu, a chymerodd y gladdedigaeth le ddydd Gwener diweddaf.
Cydymdeimlwn yn ddwfn a'r teulu yn eu trallod chwerw.