MARW TRIST.
Brawychwyd yr ardal hon yn ddirfawr gan y newydd anisgwyliadwy fod y brawd ieuanc anwyl Mr. Griffith Owen Jones, Penrhos. wedi marw a'r ei fis mêl yn Liverpool, dydd Gwener, Tachwedd 17eg, ac efe yo 31 mlwydd oed.Nid oedd prin dair wythnos er pan oedd ein cyfaill siriol yn nghanol llawenydd bywyd, wrth ymbriodi a Miss C. M. Jones, Voelas, (merch Capt. David Jones,) ac yn addaw iddo ei hun wrth fyned i dreulio ei fis mêl, flynyddoedd o ddedwyddwch, ond wele cyfrol ei fywyd yn cau ar drothwy y bywyd newydd.
Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Griffith Jones, 'Conctractor.' Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth, ac yn ddiweddar dewisiwyd ef yn Arweinydd yn y Cyfarfod Canu, a'r gyfer y Gymanfa Ganu nesaf. Cymeriad prydferth a dilychwin ydoedd, a phawd yn hoffo hono. Mae'r ergyd yn drom i'r teulu oll, ond yn arbenig i'w weddw ieuanc.
Cymerodd y gladdedigaeth le yn Morfa Nefyn, pryd y gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. G. Parry Hughes, R. O. Williams, Dinas, ac yn y fonwent gan y Parchi J. Cynfelin Jones, Ficer. Anfonwyd amryw o flodau dorchiau o bell ac agos, gan gar a chyfaill.
Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'i weddw drallodrus, ac a'r teulu oll yn eu galar mawr.