Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mri. J. G. Jones, Maurice Jones, W. Thomas, a Col. Gough.DIRWY DROM.
Cyhuddid W. P. Roberts, Mor Anedd, Nefyn, gan yr Arolygydd Owen, o ddefnyddio motor cycle heb ei gofrestru yn briodol.Rhoed tystiolaeth gan Mr. J. T. E. Jones, Swyddog y Trwyddedau, fod y rhif a ddefnyddid gan y diffynydd wedi ei gofrestru yn Birkenhead dan enw arall. Gwadai y diffynydd y cyhuddiad, ond cyfaddefai ei fod wedi newid peth ar dystysgrif y cofrestriad.
Dywedodd y Cadeirydd eu bod yn cymeryd golwg ddifrifol ar yr achos, ac yn ei ddirwyo i 2p.
Yr Udgorn 11/04/1917
YR YNADLYS.
Cynhaliwyd dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones, William Thomas a W. W. Griffith.HEB DRWYDDED.
Cyhuddwyd William Parry Roberts, Mor Anedd, Nefyn, o ddefnyddio Motor Cycle heb drwydded.Rhoddwyd tystiolaeth gan yr Heddwas Evans iddo weled y diffynydd yn gyru motor cycle heb drwydded, ond bu iddo godi trwydded y dydd canlynol.
Archwyd iddo dalu y costau.