NEFYN I FYD Y FODRWY.

Dyna fu yn hanes Miss Annie Davies, Mon Eifion, ac Evan Hughes, Tynypwll, y ddau o Morfa Nefyn. Cymerodd yr amgylchiad diddorol le yng Nghapel M.C., Morfa Nefyn, foreu dydd Mawrth, Medi 23.

Y forwyn briodas oedd Miss Roberts, Fronheulog, Ceidio, a'r gwas ydoedd Mr. John Hughes, Tynypwll, Morfa Nefyn - brawd i'r priodasfab. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. P. Hughes, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo yn y rhannau cyfreithiol gan Mr. Turner (dirprwy- gofrestrydd), Nefyn.

Aeth y ieuanc i Landrindod i dreulio eu mis mĂȘl ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion. Mwynhawyd y wledd briodasol ym Mon Eifion, Morfa Nefyn. Pob llwydd a bendith arnynt.

Yr Herald Gymraeg 30/09/1919