MARWOLAETH GYNNAR.

Wedi cystudd trwm, nos Lun, Awst 11eg bu farw'r chwaer ieuanc, Miss Jane Williams, merch henaf Capten a Mrs. Williams, Tanyparc, Morfa Nefyn.

Yr oedd wedi dioddef afiechyd blin am rai misoedd, ac heb obaith na golwg am adferiad. Yr oedd Miss Williams yn ferch ieuanc ddiwylliedig ac o gymeriad rhagorol, a bydd yn chwith iawn gan ei lluaws gyfeiliion ddeall am ei marwolaeth cynnar.

Bu'r angladd ddydd Gwener, ym mynwent yr eglwys, Morfa Nefyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. Cynfelin Jones (y Ficer) a G. P. Hughes (M.C.).

Cydymdeimlir a'r teulu yn ei brofedigaeth lem.

Yr Herald Gymraeg 19/08/1919