Llys Apel y Sir.
Cynhaliwyd ddydd lau yn Mhwllheli. Yr oedd yn bresenol Mr. Richard Davies (Cadeirydd), Dr. O. Wynne Griffith, Mri G Hughes Roberts, R. T. Jones, a John Owen.GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.
Gofynai Lieut. Davies am i'r Llys dynu yn ôl dystysgrif o esgusodiad amodol i Evan Hughes, Ty'n Pwll, Nefyn, am ei fod wedi gwrthod ymuno a'r Gwirfoddolwyr. Caniatawyd esgusodiad amodol ar Rhagfyr 4ydd, 1916 ar yr amod iddo ymuno a'r Gwirfoddolwyr. Gwrthododd gydsynio a'r amod hwnw, am y dywedai fod ganddo wrthwynebiad cydwybodol i filwra.Ymddangosai Mr. Robyns Owen ar ran y dyn, a dywedai fod y Llys yn myned allan o'u ffordd i gosbi y dyn am fod ganddo wrthwynebiad cydwybodol. Yr oeddynt wedi caniatau esgusodiad iddo ar y tir ei fod yn hanfodol i'r buddiant cenedlaethol iddo aros adref i drin y tir. Felly yr oeddynt nid yn unig yn cosbi y dyn ei hun ond yn cosbi ei dad a'r wlad am ei gydwybod ef.
Yr oedd llawer o deimlad lleol wedi codi yn erbyn y dyn ond yr oedd yn drwyadl wrthwynebol i ryfela, ac yn benderfynol o fyned i garchar yn hytrach nag ymuno.
Eglurodd Lieut. Davies na wnaeth y dyn gais ar dir cydwybod hyd yn ddiweddar iawn. Gohiriwyd am fis.
Yr Udgorn 23/05/1917
PENDERFYNOL O FYND I GARCHAR.
Yn Llys Apel Sir Gaernarfon, a gynhaliwyd ym Mhwllheli, ddydd Iau, gofyndd Lieut. Davies am i'r llys dynu yn ôl dystysgrif o esgusodiad amodol i Evan Hughes, Tynpwll, Nefyn, am ei fod wedi gwrthod ymuno a'r Gwirfolddolwyr. Caniatawyd esgusodiad amodol ar Rhagfvr 4, 1916, ar yr amod iddo ymuno a'r Gwirfoddolwyr.Gwrthododd gydsynio a'r amod hwnw am y dywedai fod ganddo wrthwynebiad cydwybodol i filwra.
Ymddangosodd Mr Robyns Owen ar ran y dyn, a dywedodd fod y llys yn myned allan o'u ffordd i gosbi'r dyn am fod ganddo wrthwynebiad cydwybodol. Yr oeddynt wedi caniatau esgusodiad iddo ar y tir ei fod yn hanfodol i'r buddiant cenedlaethol iddo aros adref i drin y tir. Felly yr oeddynt nid yn unig yn cosbi'r dyn ei hun, ond yn cosbi ei dad a'r wlad am ei gydwybod ef. Yr oedd llawer o deimlad lleol wedi codi yn erbyn y dyn, ond yr oedd yn drwyadl wrthwynebol i ryfela ac yn benderfynol o fynd i garchar yn hytrach nag ymuno.
Mr R T Jones : Ond y mae yn ddigon boddIon i dderbyn elw trwy amaethu tra y mae eraill yn ymladd drosto?
Mr O. Robyns Owen : Ond pa. fantais fydd i neb yn ngharchar ?
Mr R. T. Jones : Ond y mae'n byw ar adnoddau'r wlad fel finnau ar hyn o bryd.
Mr Owen : Ydyw, ond y mae ef yn cynorthwyo i gynyrchu ymborth.
Mr John Owen : A oes genych yr un gwrthwynebiad i ymuno a'r Gwirfoddolwr ag i ymuno a'r fyddin?
Yr Apelydd : Oes, yn bollol. Mr John Owen : Wel, rhyw chwareu Soldiers yw y Gwirfoddolwyr (chwerthin).
Yr Apelydd : Os gwnawn chwareu a themptasiwn fe awn ar dan. Cefais fy arwain i beidio ag ymuno a hwy.
Lieut. Davies : A gawsoch chwi arweiniad i ymuno a'r heddlu arbenig?
Yr Apelydd : Amcan yr heddlu arbenig yw amddiffyn, ac nid lladd.
Mr G. Hughes Roberts : Dyna yw amcan y Gwirfoddolwyr hefyd.
Yr Apelydd : Ie, ond amddiffyn trwy ladd y mae'r Gwirfoddolwyr.
Eglurodd Lieut. Davies na wnaeth y dyn gais ar dir cydwybod hyd yn ddiweddar iawn. Gohiriwyd yr achos am fis.
Yr Herald Cymraeg 29/05/1917
NEFYN I FYD Y FODRWY.
Dyna fu yn hanes Miss Annie Davies, Mon Eifion, ac Evan Hughes, Tynypwll, y ddau o Morfa Nefyn. Cymerodd yr amgylchiad diddorol le yng Nghapel M.C., Morfa Nefyn, foreu dydd Mawrth, Medi 23.Y forwyn briodas oedd Miss Roberts, Fronheulog, Ceidio, a'r gwas ydoedd Mr. John Hughes, Tynypwll, Morfa Nefyn - brawd i'r priodasfab. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. P. Hughes, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo yn y rhannau cyfreithiol gan Mr. Turner (dirprwy- gofrestrydd), Nefyn.
Aeth y ieuanc i Landrindod i dreulio eu mis mêl ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion. Mwynhawyd y wledd briodasol ym Mon Eifion, Morfa Nefyn. Pob llwydd a bendith arnynt.