EISIAU I'R HOLL GIGYDDION FYNED.
Achos Cigydd o Forfa Nefyn.
Dydd lau, mewn ynadlys arbenig ym Mhwllheli, gerbron Dr. S. W. Griffiths a Mr Maurice Jones, cyhuddwyd Mr W. R. Jones, cigydd, Monfa Nefyn, o beidio ymuno a'r Fyddin pan alwyd arno.Tystiodd Lieut. A. E. Chapman, Bangor, fod y cyhuddedig wedi ei alw i fyny ar Ebrill y 14eg ac yr oedd wedi anfon y warant yn ôl gan ddweyd y byddai iddo ymuno pan fyddai yr holl gigyddion eraill wedi ymuno.
Gohiriwyd ei alw i fyny hyd Ebrill 28ain, ac anfonwyd y warant yn ôl drachefn gydag esgusawd cyffelyb. Anfonodd yr awdurdodau yn ôl yn pwyso arno i ateb i'r alwad o'i wirfodd gan nad oedd arnynt ddim eisiau cymeryd camrau gorfodol, a gohiriasant y dyddiad i'w alw i fyny hyd Mai 1af er ei fod wedi ei wrthod gan y Llys Apel Sirol ers 17 diwrnod, ac fod y bechgyn oeddynt yn yr un dosbarth ag ef mewn ymarferiad ers misoedd.
Ni atebodd i'r alwad ar Mai y cyntaf, ac nid oedd ganddynt ond cymeryd y camrau presenol i'w orfodi.
Dywedodd y cyhuddedig mai wedi ei gamarwain yr ydoedd. Yr oedd yn awyddus am amser i gasglu yr arian oedd yn ddyledus iddo yn y wlad, ac yr oedd wedi myned i ffair Pwllheli i werthu y ceffylau ddydd Llun pan ddaeth y teligram yn ei alw i fyny.
Dywedodd yr Arolygydd Owen fod yr Heddwas Evans wedi galw gyda'r diffynydd ynghylch yr alwad olaf a gafodd ac yr oedd wedi addaw dychwelyd y papurau gyda'i resymau dros beidio a myned i fyny, ond ni bu iddo wneyd hyny.
Gofynodd am ganiatad i'w gadw hyd nes y deuai milwyr o Wrecsam i'w dyrchu.
Y Cyhuddedig : Yr wyf yn foddlon i fyned fy hunan yn awr.
Yr Arolygydd : Ni chewch fyned felly yn awr. Mae yna reolau ynglyn a phethau fel hyn.
Dirwywyd ef i 2p a throsglwyddwyd ef drosodd i'r heddlu hyd nes y deuai milwyr i'w ymofyn.
Yr Herald Gymraeg 09/05/1916
CALLED UP THREE TIMES.
At Pwllheli, on Thursday, a butcher named W. R. Jones, Morfa Nevin, was charged with being an absentee from the army.Lieutenant Chapman, Bangor, stated that the accused was called up three times since April 14, and was given sixteen days' extension in spite of the fact that he was refused exemption by the appeal tribunal. He returned the last warrant with a letter stating that he was willing to join when all other butchers go.
The accused stated that he was misled, and was ready to go after collecting his debts.
Bench fined him 40s. and handed him over to an escort.