MARWOLAETH SYDYN GWR ADNABYDDUS.

Dydd Sadwrn, yn dra sydyn bu farw Cadben David Owen, Fron Oleu, Nefyn, yn 44 mlwydd oed. Yr oedd yn feistr ar y North Britan Castle.

Gedy weddw a dau o blant, i alaru ar ei ôl, gyda pha rai y cydymdeimlir yn fawr.

Yr Udgorn 11/04/1917