MARW TRA'N GWEDDIO.

Nos Lun, Ionawr y 7fed, brawychwyd trigolion yr ardal dawel hon, ac yn arbenig y rhai oedd wedi ymgynull i gyfarfod gweddi Capel y Bedyddwyr, gan farwolaeth sydyn Mr W. Jones, Shop Glanrafon.

Yr oedd Mr Jones yn ddiacon blaenllaw gydar Bedyddwyr yn yr ardal, a thra yn gweddio nos Lun yn y capel ehedodd ei ysbryd i'r trigfanau nefol, ac efe yn 63 mlwydd oed.

Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd un o'r rhai lluosocaf a welwyd erioed yn yr ardal, ddydd Gwener yn mynwent Nefyn. Y prif alarwyr oeddynt Mrs Jones (gweddw); Mrs Jones (merch); Mrs Evans (merch); Mr D. O Evans (mah yng nghyfraith).

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth drist.

Yr Udgorn 16/01/1918