GADAEL Y FYDDIN.
Mewn llys arbenig ddydd Mawrth, bu i'r Maer. (Dr. Jones Evans) drosglwyddo Evan M. Owen, Nefyn, yr hwn a gyhuddiwyd o adael y fyddin yn Llandudno, drosodd i'r awdurdodau milwrol.Yr Herald Gymraeg 30/03/1915
EGLURHAD.
Deallwn mai mewn camgymeriad y deuwyd ag achos E. M. Owen, Glan Aber, Morfa Nefyn o flaen ynadon Pwllheli, beth amser yn ôl ar y cyhuddiad o adael y fyddin.Eglurir yn awr ei fod adref yn wael ac o dan ofal y meddyg, pryd y galwyd ef i fyny mewn dull mor boenus.
Mae yr awdurdodau milwrol wedi ymddiheuro iddo erbyn hyn a chydnabod ei fod adref trwy ganiatad a'i fod yn filwr o gymeriad da.