MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Boreu Sul, Mai 3ydd, bu farw Mrs Jane Jones, Cae'rpwll, Morfa Nefyn (priod y diweddar Mr William Jones, gyriedydd, Nefyn), yn 90 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r rhai hynaf yr ardal, ac un o'r gwragedd siriolaf y lle, a diau y teimla amryw o'i chydnabod golled dwfn ar ôl un mor gymwynasgar.
Dydd Iau cludwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn mynwent Morfa Nefyn, pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, ac O. Pritchard, Nefyn, ac yn y fynwent gan y Parch. Cynfelin Jones, Ficer, Nefyn. Cafodd gynhebrwng mawr a pharchus.
Cydymdeimlwn yn ddwfn a'r plant (un o honynt yw Mrs Evans, Victoria House, Pwllheli), a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth chwerw.