LLYS APEL LLEYN.

Cynhaliwyd yr uchod ddydd Marcher, Mr J. Hughes Parry yn y gadair.

ACHOS TRIST.

Gofynnodd John Jones Roberts, Caerhug, Morfa Nefyn, am esgusodiad. Dywedai ei fod yn gweithio ar y mor hyd Awst diweddaf, pryd y suddwyd ei long gan y gelyn, ac y torodd ei iechyd i lawr.

Ar ei gyrhaeddiad adref daeth y newydd fod ei fab wedi colli ei fywyd trwy i'w long gael ei suddo. Yr oedd iechyd ei briod ac yntau wedi tori i lawr, ac yr oedd yn awr yn trin fferm fechan.

Gohiriwyd er cael adroddiad y Bwrdd Meddygol. Ategid ei gais gan y Parch H. H. Williams. Pwllheli.

Yr Herald Gymraeg 29/01/1918