MARWOLAETH.

Nos Wener, Mai y 9fed, yn 78 mlwydd oed, wedi wythnosau o gystudd, bu farw Mr T. Jones, Marine Terrace. Y Mercher canlynol, sef 14eg cyfisol, claddwyd yr hyn oedd farwol iddo yn mynwent anenwadol Nefyn.

Daeth tyrfa luosog a pharchus i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd ar yr achlysur cyn cychwyn ac yn y fynwent gan y Parchn W. D. Evans, Aberdyfi. H. Davies, Abererch, J. Ellis Williams, Pendref. Bangor, Llewelyn Williams, Llandudno, a J. Rhydderch, Pwllheli.

Gadawodd ar ei ol mewn galar a hiraeth dri o feibion a dwy o ferched.

Yn ystod y 40 mlynedd diweddaf bu canoedd o bregethwyr yn aros yn ei dy, ac nid oedd modd cael lle y teimlid yn fwy cartrefol nag yno, am nad oedd dim yn ormod gan y teulu caredig hwn er gwneyd y pregethwr yn wir gysurus. Gwraig ragorol mewn amryw ystyron oedd Mrs Jones, ei anwyl briod, yr hon oedd wedi ei flaenu ers blynyddau. Cafodd ein hen gyfaill gartref cysurus gyda'i ferched, y ddwy Miss Jones, pan oedd y dyddiau blin wedi ei ddal buont yn garedig iawn wrtho a gweiniasant yn dyner arno hyd y diwedd. Yr Arglwydd a dalo iddynt.

Y mab hynaf yw y Parch Henry Jones, Trefriw.

Aelod ffyddlon yn eglwys Soar oedd ein diweddar anwyl frawd. Caffai pethau crefydd lawer o sylw ganddo, ac y mae pob lle i gredu fod marw yn elw iddo.

Yr Udgorn 28/05/1913