Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mr. G. Hughes Roberts (yn y gadair), a Mr. J. Hughes Parry.

YMOSOD AR FACHGEN.

Cyhuddai Hugh Roberts, Sportsman Hotel, Nefyn, Ann Griffiths, Gongl, Nefyn, o ymosodiad, a rhoddai Griffith John Griffiths, Gongl, groes-wys yn erbyn Roberts.

Ymddangosai Mr. E. R. Davies ar ran Roberts, a Mr. William George ar ran Griffiths. Eglurai Mr. Davies fod y pleidiau wedi cytuno.

Yr oedd bachgen Roberts wedi hyrddio bachgen Griffiths ar y ffordd o'r ysgol. ac yr oedd Ann Griffiths wedi rhoddi y fath gurfa i fachgen Roberts fel yr oedd yn ei wely dan ofal meddyg hyd yn awr. Yr oedd Mrs. Griffiths wedi datgan gofid am iddi guro y bachgen, ac yn cyflwyno ymddiheurad i Roberts am yr hyn ddigwyddodd, ac yn ymgymeryd a dwyn y costau.

Dywedai Mr. W. George fod bachgen yr achwynydd Roberts wedi ymosod ar fachgen Griffiths, a chan ei fod yn hynach yr oedd ar fachgen Griffiths ei ofn. Ond yr oedd yn ofidus gan Mrs. Griffiths ei bod wedi cyffwrdd yn y bachgen.

Hyderai y byddai y teuluoedd ar delerau cyfeillgar yn y dyfodol.

Yr Udgorn 10/10/1917