MARW GWR ADNABYDDUS.
Cyfeirio yr ydym at Mr. Richard Jones, Glynllifon, Nefyn.Ychydig feddyliodd ei luaws gydnabod na welsid ei wyneb ddechreu'r flwyddyn newydd. Nid oedd yn hen mewn unrhyw ystyr, ac yr oedd iechyd yn dawnsio ar ei ruddiau a'i gerddediad mor chwim ag ewig hyd yn ddiweddar iawn. Dechreuodd wargrymu yn sydyn, llesgaodd ei gamrau, gwanychodd ei nerth, ac mewn ychydig wythnosau yn raddol ac eto yn gyflym aeth ei gorph arferai fod mor gryf, yn rhy wan i fedru anadlu yma, a nos Lun bu farw. Aeth yr oll heibio fel breuddwyd o'r bron. Prin y gallwn sylweddoli fod Richard Jones wedi distewi yn yr angau Ond pa esboniad arall sydd i'r gornel a'r gadair ger y tan fel y maent heddyw? Beth sydd yn cyfrif fod y llwybrau a gerddai mor gyson ar ochr y mynydd eisoes yn dechreu glasu? Beth yw'r bwlch sydd yn ei sedd yn y capel ac yn y Festri? Beth yw'r prudd-der sydd yn llenwi awyrgylch yr aelwyd? Rhaid i ni gredu ei fod wedi mynd, "wedi mynd." Oni welsom ef yn ei arch ? Buom dystion o'i angladd prydnawn Gwener. Edrychem ar y dywarchen olaf yn cael ei dodi ar ei fedd, ac yntau dani? Yr oeddym yn mhlith y dyrfa fawr oedd yn troi ei chefn ar y fynwent yn ei dagrau ar ei ôl. Nid oes genym bellach ond edrych ymlaen i'r dyfodol. Henffych i'r diwrnod cawn eto gwrdd, oddeutu'r bwrdd yn Salem lan.
Dyn cyffredin anghyffredin oedd Richard Jones. Pwy all ddweud beth a fuasai, pe wedi cael cyfleusderau i yfed dyfroedd dysg a gwybodaeth fel sydd ynghyraedd bechgyn yr oes, hon, gyda'i galon lydan, ddofn a phur a feddai? Dechreuai ef weithio a'i ddwylaw pan yn naw oed. Priododd pan yn gymharol ieuanc. Ymhen rhai blynyddoedd, dechreuodd fasnachu fel cigydd. Daeth wedi hyny i fod yn amaethwr, ac yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus yn y wlad, ac yn ŵr o ymddiriedaeth yn syniad pawb y deliai a hwynt.
Er iddo gyfarfod a rhai croesau lled chwerw ar ei daith. a dwyn i fynu dyaid o blant, bu Rhagluniaeth yn dirion odiaeth wrtho. Dyrchafodd a chadwodd ef ymhell uwchlaw pob eisiau a phryder. Am ei fod ef yn helpu ei hun, helpai hithau yntau, ac yr oedd yn fyw iawn i'w hymyriadau a'i ffyrdd, yn gwerthfawrogi ei gwenau ac yn ceisio ei chydnabod gyda'i law, ei boced, a'i galon. Ofer fuasai i'r diafol wastraffu ei amser gydag ef, i geisio gwneyd twyllwr, cybydd nac enllibiwr ohono. Rhaid ei fod wedi ei roi i fynu ers llawer dydd, oblegid ni wyddai beth oedd cael hyd yn nod ei oglais ganddo yn y cyfeiriadau yna. Ni wyddai ychwaith beth oedd cenfigen, ond trwy glywed a sylwi. Yr oedd yn gwbl ddieithr i'w galon. Nid oedd ganddo elyn ar y ddaear ond yr un drwg. Aleddai natur serchog a charuaidd, ac yr oedd yr elfen gymdeithasgar yn gref ryfeddol ynddo. Gallai fynd yn agos at bawb, a phawb fynd yn agos ato yntau. Ni bu ei ffyddlonach! a'r rhai a hoffid ganddo yn gwisgo esgid erioed. Yr oedd yn bur fel y dur. Dymunai lwyddiant pob dosbarth o ddynion. ond byddai yn barod i ddadleu ac i ymladd hyd at waed pe bai galw am hyny dros ei gyfeiliion.
Pe buasai ei allu o ran cyfoeth yn agos ogymaint a'i ewyllys, ni buasai yr un gŵr na gwraig na phlentyn yn dioddef eisieu yn y wlad, wedi iddo gael ei argyhoeddi eu bod yn deilwng o help. Ni chawsai diffyg arian lesteirio unrhyw achos da i fyned rhagddo pe buasai ei bwrs ef agos mor drwm a dyfnder ei gydymdeimlad. Cyfranodd lawer yn ddistaw yn ysbryd y "weddw dlawd." a gwnaeth lawer o gymwynasau a'i law ddeheu heb yn wybod i'w law aswy. Boed ei rinweddau a'i ragoriaethau yn amlwg yn ei blant. Cedwch mewn cof, fechgyn a genethod anwyl mai cymeriad fel a feddai eich tad allasai sicrhau iddo y fath angladd ag a gafodd. Nid yw tras, cyfoeth, na dysgeidiaeth. i'w cystadlu yn eu dylanwad ar gydwybod a chalon gwlad. I gymeriad y talant hwy warogaeth yn y pen draw.
Huned yntau bellach, yr hen gymydog a chyfaill siriol, cynes a charedig, hyd fore'r codi mawr cyffredinol.