YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron, Mri. C. H. Lloyd Edwards (cadeirydd), William Thomas a Griffith Evans.

Datganodd y Cadeirydd gydymdeimlad y fainc รข Mr. C. H. Lloyd, Trallwm, ar farwolaeth ei briod, ac a Mr. Arthen O. Owen (clerc) ar farwolaeth ei chwaer. Ymunai Mr. W. Cradoc Davies ar ran y cyfreithwyr a'r Arolygydd Owen ar ran yr heddlu yn y penderfyniad.

Cyhuddai Mr. McCarter (Arolygydd y Bwydydd), Richard Jones. Glynllifon Stores, Nefyn, o godi mwy na'r pris safonol am bot o jam a thin o salmon. Ymddangosodd Mr. J. Horatio Lloyd, Bangor, i erlyn a phlediai Mr. Jones ei fod yn ddieuog.

Tystiodd Mr. McCarthy iddo ymweled a masnachdy Mr. Jones ar Gorphenaf 16fed. Gofelid am y masnachdy gan Miss Hunter, a (gofynnodd am bot o jam, a chafodd un a chodwyd 1s. am dano tra mai'r pris safonol ydoedd 11d. Hefyd gofynnodd am din salmon, a chodwyd 1/10 am y cyfryw tra mai uchafbris y Swyddfa Ymborth ydoedd 1/8 1/2. Pan y datguddiodd pwy ydoedd dywedodd Miss Hunter ei bod dan yr argraff ei bod yn codi'r prisiau priodol am nwyddau.

Yn ateb i'r diffynydd dywedodd y tyst mai ei amcan yn ymweled a'r masnachdai ydoedd i rwystro gor-elwa ac i sicrhau chwareu teg i'r prynwr. Dywedodd y diffynydd ei fod ef dan yr argraff mai amcan yr archebau ynglyn a bwydydd ydoedd rhoddi terfyn ar or-elwa (profiteering). Cafodd ef air Cymraeg newydd am broffiteerio yn ddiweddar, sef cribddeilio. Ond nid oedd ef yn euog o hynny, gan fod y tin salmon yr oedd ef yn codi 1s. 10c. am dano wedi costio 2s. 4d. iddo ef, ac nis gellid galw peth felly yn broffiteerio. Ond pe buasai'r tin wedi costio punt iddo ef buasai yn ei werthu am 1/2c. pe y gwybuasai mai hynny fuasai'r pris safonol. Credai ef mai busnes yr arolygwyr ydoedd cynorthwyo'r masnachwyr, ac nid chwilio am achosion yn eu herbyn. Gofynai paham na fuasai'r Arolygydd wedi ymholi beth oedd pris y rice yn y siop.

Y Clerc : Hwyrach fod yn dda, i chwi na ddarfu o ddim.

Dirwywyd y diffynydd i 10s. ymhob achos.

Gwrthodwyd caniatau costau y cyfreithiwr.

Yr Herald Gymraeg 26/08/1919