NEFYN PRIODAS HARDD.

Ddydd Mawrth, yn Eglwys St. Andrew, Hull, unwyd mewn glan briodias y Capt. W. Charles Roberts, mab y diweddar Capt. a Mrs Roberts, Penymaes, Nefyn, a Miss Lily Owen, trydedd ferch Mr a Mrs W. S. Owen, 2, Pistyll Terrace, Pistyll.

Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch W. S. King, a gwasanaethid ar y par ieuanc gan Miiss Irene Owen (chwaer y briodferch) a Mr. D. Jones, Pwllheli (cyfaill y priodfab).

Wedi'r gwasanaeth aethpwyd at fwrdd y wledd i'r Whitehouse Hotel, Jameson Street, lle y letyai y briodferch a'i chwaer. Eiddunwn i'r ddeuddyn ieuanc nawdd y Nef ynghyd a phob bendith gynwysa hynny.

Nawdd y Nef ar hyd yr yrfa,
Rhag brad y don, rhag erchyll drinfa;
Yr Ion, ei nawdd, a'i glyd gysuron
Eiddunwn oll o wirfodd calon.

Yr Herald Gymraeg 22/01/1918