MARWOLAETH SYDYN HEN WRAIG.
Angen Deddf Newydd.
Yn sydyn iawn foreu Mercher bu farw Mrs. Margaret Twigge, Well Street. Nefyn, a hi yn 83 mlwydd oed. Cafwyd hi ar lawr ei hystafell wely yn farw gan Mrs Catherine Williams, ei chymydoges, ychydig o oriau ym flaenorol. Yr oedd Mr. Robert V. Griffiths, Allen View, wedi ei gweled yn y drws gyda phiser llefrith yn ei llaw a gwisg nos am dani.Yn y trengholiad a gynhaliwyd ddydd Iau tysiai Dr. Lewis ei bod wedi marw o ddiffyg ar y galon. Yr oedd ef wedi ceisio ei pherswadio droion i gymeryd rhywun ati i fyw ond i ddim pwrpas. Dywedodd un o'r teulu eu bod hwythau wedi gwneyd eu goreu i geisio cael ganddi gymeryd cwmpeini. Bu un ohonynt yn aros gyda hi am fisoedd hyd tua mis yn ôl.
Dywedodd Mr. O. Robyns Owen. y trengholydd, ei fod yn gwbl afresymol i adael hen bobl i fyw ar eu penau eu hunain a chredai y dylid pasio deddf i'w gorfodi i gymeryd rhywun i ofalu am danynt.
Pasiwyd rheithfarn yn unol a thystiolaeth y meddyg.