NEFYN MARW A CHLADDU HEN GYFAILL.

Robert Vaughan Griffiths oedd y cyfaill annwyl y bu'm yn ei hebrwng i fedd ei fam ym Mhenrhyndeudraeth. Brodor ydoedd efe o'r lle hwnnw, ond a drigai yn Nefyn, yn bobydd gyda'r diweddar Thomas Williams er o ddeuddeg i bymtheng mlynedd.

Bu'n wael ei iechyd ers; rhai blynyddau. Yr hen elyn "darfodedigaeth" a fu'n tynu yn araf ei babell luniaidd i'r bedd. Bu farw y dydd olaf o Fai. Aed a'i weddillion i'r Penrhyn dydd Mawrth dilynol.

Bachgen tlawd ydoedd, yn dibynnu yn hollol ar elusen a charedigrwydd yn ei hir gystydd, ac ni fu'n ol o bob caredigrwydd y tu hwnt, oddiar law trigolion Nefyn, yr hyn sydd yn fawr glod i'r lle.

Hunodd bron yn nechreu ei unfed blwydd a deugain o'i oedran. Preswyliai gyda theulu caredig Mr. Edward Evans ym Missever. Aeth nifer o gyfeillion o gylch y dref i gasglu at dreuliau ei gladdu a'i hebrwng i "fedd ei fam", yr hon oedd yn chwaer i'r anfarwol Tudno. Heb drafferth o gwbl, casglwyd digon i dalu am un o gerbydau modur a redant o Nefyn i Bwllheli. Aed a'i weddillion ynddo ynghyd a nifer dda o'i gyfeillion, ymysg pa rai yr oedd y Parch. Cynfelyn Jones, M.A., y Ficer, yr hwn a wasanaethai yn y tŷ, ac a gymerai ran yn yr eglwys ac ar lan y bedd ynghyd a Ficer y Penrhyn.

Gellir dweyd am "Bob Vaughan" ei fod yn athrylithgar tuhwnt. Amheuwn a oedd ei ewythr, Tudno, yn alluocach yn gynhenid nag oedd efe, ond, fel llawer athrylith fawr o'i flaen, hudwyd ef i "lwybrau gwamal." Dodwn rai diffynion o'i benhillion rywbryd pan gawn gyfle, er arddangos y wir awen a feddienid ganddo. Y mae gennym un yn rhywle a feddyliodd ei hanfon yn galondid ryw dro i Elfyn. Os gallwn ei chael ceir dyfyniad ohoni. Anhawdd gwybod yn iawn sut i ateb cwestiwn Pedr, "A phwy all fod yn gadwedig?" Er nad edrychai "Bob Vaughan" ar lawer o bethau crefydd fel yr edrychwn ni arnynt yn hanfodol.

Yr oedd ei enaid yn bachu ar greigiau cadarnaf yr iachawdwriaeth. Syn gennym os nad ydyw yn adrodd ceinion ceinaf Tudno a'r beirdd Cymreig penaf am Iesu Grist yr Achubwr. Hyd oriau man y bore y bu gyda mi yn gwneyd dro ar ol tro. Nofiai ei enaid ynddynt.

Hedd i'w Iwch.

Yr Herald Gymraeg 17/06/1919