COLLI CRISTION.
Gyda gofid dwys yr ydym yn gorfod cofnodi marwolaeth Mr. Richard Williams, Tanyffordd, yn chwech a thriugain mlwydd oed. Nid oedd ei iechyd yn gryf ers misoedd.Ni feddyliem y buasem yn ei golli mor fuan, ond daeth y diwedd yn hynod annisgwyliadwy, a bu farw mor dawel a bu fyw; ac o'i golli, cyll ei gapel a'r ardal wr da a ffyddlon.
Yr oedd yn weddiwr mawr a gafaelgar, ac fel ei Waredwr carai yr encilion. Yr oedd yn hoff iawn o farddoniaeth, ac arferai adrodd cannoedd o linellau o waith beirdd Lleyn ar dafod leferydd, a gallai wneyd penill pert ar unrhyw destyn. Pe buasai wedi cael manteision addysg mae yn sicr y buasai wedi cyraedd safle uchel ym mysg beirdd ei wlad.
Hebryngwyd ei weddillion marwol i fynwent Morfa Nefyn prydnawn dydd Mawrth, a chafodd angladd tywysogaidd. Gweinyddwyd wrth y tŷ gan ei weinidog, y Parch. G. P. Hughes, ac yn y fynwent gan Parch. R. Cynfelyn Jones, Ficer y plwyf.
Gedy weddw, un mab, a thair merch i wylo eu colled am dano. Nawdd y Nef fo drostynt yn eu trallod.
Tad gofalus, priod hawddgar,
A Rhyddfrydwr o'r iawn ryw;
Rhoddai'i wraig holl aur y ddaear
Am ei gael yn ôl yn fyw
Cwsg yn dawel gyfaill anwyl
Yn y bedd ar ben y daith;
Melus, melus ydyw noswyl
Wedi caled ddydd o waith.
GLAN CEFNI