Anafu Dau mewn Chwarel.

Prydnawn Llun bu damwain ofidus iawn yn chwarel sets y Gwylwyr, ger Nefyn, pryd yr anafwyd dau greigiwr, William Mona Hughes, Nefyn, ac Owen Williams, Tanybwlch, Llithfaen.

Ymddengys fod y ddau yn hwylio i dyllu twll ar step, yn mesur tua naw troedfedd i fyny yn y graig pryd yn anisgwyliadwy iawn y rhoddodd y graig o'r tu ôl iddynt ffordd, gan eu hyrddio dros yr ymyl i ddyfnder o 90 troedfedd.

Anafwyd y blaenaf yn ddifrifol, a bu farw yn ddiweddarach.

Herald Gymraeg 19/05/1914


MR. MONA HUGHES.

Yr wythnos o'r blaen yr oeddym yn crybwyll am y ddamwain ddigwyddodd i'r brawd, ond gofidus genym orfod croniclo am ei ymadawiad a'r fuchedd hon nawn Sadwrn.

Brawd ydoedd a gymeradwyd gan bawb; dyn tawel, caredig, yn barod gyda'i gymwynas i bawb a ffyddlon gydag achos crefydd yn ei wahanol adranau.

Cynhaliwyd cwest gan Mr. Robyns Owen ddydd Mawrth diweddaf, a dychwelwyd rheithfarn o "Ddamwain," a ddydd Mawrth daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i'w hir gartref.

Yr ydoedd yn aelod gweithgar o bwyllgor Eisteddfod Gwyr Ieuainc a thaflwyd peth prudd-der ar yr Eisteddfod am fod un o'i haelodau yn cael ei gladdu ddiwrnod ei chynhaliad.

Yn nghyfarfod yr hwyr pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad â'r teulu trallodus yn eu profedigaeth lem.

Nawdd y Nef fyddo dros y weddw a'i amddifaid, a'i fam a'i dad wedi myned ym mhell mewn dyddiau.

Y Genedl Gymreig 26/05/1914


Llys Sirol Pwllheli.

Cynhaliwyd Llys Sirol Pwllheli dydd Mawrth gerbron y Barnwr W. Evans.

Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran Cwmni Chwarel Sets y Gwylwyr, Nefyn, i ofyn am gadarnhad y llys i gytundeb y daethpwyd iddo gan y cwmni a gweddw y diweddar William Mona Hughes, Nefyn, yr hwn a gyfarfu a damwain angeuol yn y chwarel uchod.

Ymddangosai Mr. Hugh Pritchard dros y weddw a chytunai i daliad o 194p 7s 4c. o iawn.

Caniatawyd y cais a gwnaed archeb i dalu symiau cyfnodol i'r weddw.

Herald Gymraeg 08/09/1914