MORFA NEFYN.
Brawychwyd ein hardal dawel gan farwolaeth sydyn y chwaer anwyl Mrs. J. E. Thomas, Emu, yr hyn a gymerodd le tua chanol dydd Gwener y Groglith.Un o'i phlant bychain a ddywedodd yn briodol iawn, "fod ei fam wedi marw yr un diwrnod a Iesu Grist."
Yn anffodus, bu farw Mrs. Thomas tra y oedd ei phriod, Capt W. Thomas, i ffwrdd yn rhai o borthladdoedd Ffrainc - efe yn feistr ar yr S. S. Fernandina. Y mae yn bosibl na wyr efe eto ddim am farwolaeth ei anwyl briod, er fod pob ymdrech wedi ei wneud i dorri y newydd trist iddo.
Gadawodd Mrs. Thomas dri o rai bychain yn ogystal a'i phriod i alaru eu colled a'u profedigaeth lem. Y mae cydymdeimlad yr ardal a'r gymydogaeth yn fawr iawn a hwy. Prin y gwelwyd un farwolaeth naturiol yn cael ei chwyno yn fwy yn ein hardal.
Cymerodd yr angladd le dydd Sadwrn, Ebrill 6ed, yn mynwent yr Eglwys. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. E. T Evans (gweinidog), a'r Parch J. Rhydderch, Pwllheli, ac yn y fynwent gan y Parch Cynfelin Jones (ficer). Gwelwyd hefyd yn bresenol y Parch. G. Parry Hughes (M C.) a T. Williams (M.C.), Pwllheli.
Y prif alarwyr oeddynt :-
Thomas Owen, J Christabel a Griffith Gwilym Thomas (plant); Mr. a Mrs. Hughes, Nanney Place, Pwllheli (rhieni); Miss Hughes, Pwllheli (chwaer); Mr. a Mrs. Hughes, Monachdy, Sarn (brawd); Mr. a Mrs. Griffith, Plas Du, Fourcrosses (chwaer); Mr. a Mrs. Jones, Biikenhead (brawd a chwaer-yng-nghyfraith); Miss Thomas, Porthmadog (chwaer-yng-nghyfraith); Mrs. Jones, Ffridd, Ceidio (cyfnither); Miss Jones, Madryn Isaf (cyfnither); Mrs. Jones, Pwllheli (cyfnither); Miss Parry, Dinas (cyfnither); Mrs. Roberts, Pwllheli (cyfnither) Mr. a Mrs. Edwards, Mrs. Buckingham, a Mrs. Evans, Porthmadog (cyfnitherod); Mr. W. Thomas, Penygroes, Mr. G. Williams, Machynlleth, Mri. a Mrs. W. O. Williams, Madryn Park, John Williams, Madryn Mill, Phillip Parry, Dinas (cefndryd); John Jones, Porthmadog, Owen Williams, Ceidio, R. Hughes a John Hughes, Bodfean, Thomas Williams, Meillionen, Ceidio (ewyrthod).
Yr oedd ei harch yn orchuddiedig o flodau, ac yn eu plith gwelwyd y wreaths a ganlyn:-
Thomas Owen, J Christabel a Griffith Gwilym Thomas; Teulu Nanney Place, Pwllheli; Teulu Capt. Thomas o Porthmadog; Mr. a Mrs. Hughes, Hull; Miss Parry, Dinas, a Miss Morris, Pwllheli.
Yr oedd Mrs Thomas yn aelod disglair o'r Eglwys Annibynol yn y Morfa, ac yr oedd yn hannu o hen deulu Annibynol - teulu y gellid olrhain ei hanes yn ôl i flynyddoedd cyntaf Ymneulltuaeth yn Sir Gaernarfon.