Llys Apel y Sir.
Cynhaliwvd yr uchod yn Mhwllheli ddydd lau. Yr oedd yn bresenol Mri. J. E. Greaves (cadeirydd), Dr. O. W. Griffith, Richard Davies, G. Hughes Roberts, T. W. Hughes, T. Griffith, Llew Davies (clerc), Lieut. Cradoc Davies, a Mr. W. E. Williams.NID PENTREF OND TREF.
Apeliai Evan R. Evans, Ty'n y mynydd, Nefyn, gôf, 30 mlwydd oed, yn erbyn y Llys Apel yn gwrthod esgusodiad iddo.Dywedai mai efe oedd yr unig ôf yn yr ardal, a chyflwynodd ddeiseb wedi ei harwyddo gan nifer luosog o ffermwyr yn mhlaid ei esgusodiad. Yn mhlith y ffermwyr yr oedd Mr. J. P. Jones, Holborn.
Gofynai Lieut. Davies sut yr oedd Mr. Jones wedi arwyddo y ddeiseb ac yntau wedi myned a'i aradr i'w adgyweirio i'r Efailnewydd.
Mr. Hughes Roberts : Mae pobl yn agored i newid eu gof fel y maent yn newid eu twrneiod a'u doctoriaid (chwerthin).
Lieut Davies : Ond ni fyddant yn rhoddi llythyrau cymeradwyaeth i'r twrneiod neu'r meddygon y byddant wedi cefnu arnynt (chwerthin).
Lieut. Davies wrth y dyn : Mae eich gweithdy yn mhentref Nefyn, onid ydyw?
Yr apelydd : Ydyw, yn nhref Nefyn (chwerthin).
Esgusodwyd hyd Ebrill 30ain (terfynol).