TORRI AMOD PRIODAS.

Cynhaliwyd Llys y Sirydd yng Nghaernarfon, ddydd Llun, gerbron Mr. Vincent Johnson (is-sirydd), a rheithwyr i benderfynu swm yr iawn i'w roddi mewn cynghaws a ddygwyd gan Jane Roberts, Tai'r Lon, Nefyn, yn erbyn E. H. Hughes, dental operator, Nefyn, am dori amod priodas. Mr. Caradoc Davies, Pwllheli, a ymddanghosodd dros yr hawlyddes. Nid oedd y diffynydd yn bresennol.

Dywedodd Jane Roberts, yr hawlyddes, yn ei thystiolaeth ei bod yn 39 mlwydd oed. Adnabu'r diffynydd E. G. Hughes er pan yr oeddynt yn blant, ac yr oedd yn gyfaiil i'w brawd. Dechreuodd ei ganlyn yn Mehefin 1916 a dau fis yn ddiweddarach ymunodd a'r Fyddin, a gwasanaethai yn y wlad hon. Anfonodd iddo amryw symiau fel arian poced tra yr oedd yn y fyddin. Anfonodd iddo i gyd 3p 16s. Pan oedd y diffynydd yn Aldershot gofynnodd iddi briodi ag ef ac awgrymwyd i'r briodas gymeryd lle yn Llundain.

Dywedodd hi y buasai'n well ganddi aros am ychydig hyd nes y deuai ei brawd adref er mwyn iddo gael bod yn bresennol yn y briodas. Symudodd y diffynydd ar ôl hynny i Blackpool, ac ysgrifennodd drachefn ati ynglyn a'r briodas, ac awgrymodd i'r briodas gymeryd lle mewn swyddfa cofrestrydd yn Lerpwl.

Dywedodd hi y buasai'n well ganddi briodi yn y capel, a chytunodd y diffynydd â hynny. Ysgrifennodd y diffynydd wedi hynny i ofyn iddi anfon arian iddo i wneud paratoadau ar gyfer y briodas, ac i brynu modrwy a chael trwydded. Anfonodd hi 7p. iddo, ynghyda modrwy ei nain er mwyn iddo brynu modrwy iddi. Ymhen ychydig ar ôl hynny derbyniodd hi y fodrwy yn ôl mewn bocs a dim gair o gwbl gyda hi.

Fel yr oedd adeg y briodas yn neshau, derbyniodd lythyr arall oddiwrth y diffynydd yn dywedyd fod anhawster wedi codi, a bod y capten wedi gwrthod caniatad iddo absenoli ei hun, ac awgrymodd i'r briodas gael ei gohirio. Mewn llythyr diweddarach a dderbyniodd oddiwrtho gwnaeth y diffynydd esgusawd cyffelyb parthed cael absenoli ei hun. Ni chlywodd ddim oddiwrtho wedi hynny.

Cyfarfu hi ef, fodd bynnag, yn ddamweiniol pan ddaeth adref yn Hydref. Gofynnodd iddo beth oedd wedi wneud gyda'r 7p., ond nid atebodd. Yna gofynnodd iddo beth oedd yn myned i wneud. Atebodd os na phriodai hi ni phriodai neb arall. Y peth nesaf a glywodd oedd ei fod wedi priodi gyda nyrs o Ffestiniog oedd mewn ysbyty yn Lerpwl. Ychwanegodd yr hawlyddes fod ymddygiad y diffynydd wedi achosi cryn boen iddi ac yr oedd wedi bod yn wael, ac yr oedd yn parhau dan ofal meddyg. Yr oedd hi wedi gwario deg punt ar ddillad ar gyfer y briodas.

Darllenodd yr Is-Sirydd lythyr oddiwrth y diffynydd ym mha un nid oedd yn gwadu ei ddyled parthed yr arian a dderbyniodd. Gan nad oedd wedi ei ryddhau o'r Fyddin ond yn gymharol ddiweddar a llawer o ymrwymiadau ariannol, yr oedd yn analluog i dalu dim fel iawn.

Dyfarnodd y rheithwyr 150p o iawn.

Yr Herald Gymraeg 26/08/1919