TORI EI DROED YMAITH.

Cyfarfu Mr W. Thomas. U.H., Gerallt Nefyn, a damwain ddifrifol iawn ddydd Mercher diweddaf.

Yr oedd yn edrych ar griw y bywydfad yn cychwyn allan i'r mor i ymarferyd, a rhywfodd aeth ei droed yn rhwym yn y wire rope oedd yn gollwng y bad i'r mor. Pan dynhaodd y rhaff ar blwc cipiwyd ei droed i ffwrdd yn sydyn i'w chanlyn Bu raid tori ei goes ychydig yn uwch i fyny drachefn gan y meddyg.

Deallwn fod Mr Thomas cystal a'r disgwyliad ar ol y ddamwain dost. Teimlir cydymdeindad cyffredinol â Mr Thomas trwy y wlad. Y mae yn ddyn siriol a chymeradwy iawn ac yn cymeryd dyddordeb mawr mewn golf, pysgota a saethu. Bu yn rheolwr ariandy ym Mangor am flynyddau, ond yr oedd yn awr wedi ymneillduo o fasnach.

Y mae yn fab i'r diweddar Capt. John Thomas, U.H. Nefyn.

Yr Udgorn 26/11/1913


LLONGYFARCH.

Ddydd Mercher diweddaf aeth Mr. Wm. Thomas, Y.H., i Bwllheli a chymerodd ei le ar y Fainc Ynadol am y tro cyntaf er pan gyfarfu â damwain ddifrifol y llynedd.

Dywedodd Cadeirydd y Fainc (Mr. J. G. Jones) fod yn dda gan yr Ustusiaid weled Mr. Thomas vn bresenol unwaith eto, ac yn edrych mor dda ar ôl y ddamwain ofidus a gyfarfu.

Hyderid y cai iechyd a nerth i barhau am flynyddoedd eto i ddyfod i'r Llys i gyflawni y dyledswyddau hyny ag yr oedd efe hyd hyn wedi eu cyflawni mor foddhaol i bawb.

Dywedodd yr Arolygydd T. Owen, wrth ddatgan ei lawenydd o weled Mr. Thomas yn y Llys iddo gael y fraint o adnabod Mr. Thomas pan oeddynt eu dau ym Mangor am flynyddoedd.

Diolchodd Mr. Thomas am yr hyn a ddywedwyd am dano.

Y Genedl Gymreig 09/06/1914