MARWOLAETH.

Nos lau diweddaf, tra'n anerch y seiat yn eglwys y Wesleyaid, tarawyd Mr William Jones, Bodeinion, ag ergyd o'r parlys. Bu'n fyw am ychydig oriau, ond bu farw heb yngan gair.

Bu'n ysgrifenydd y Gymdeithas Gyfeillgar am flwyddi maith, ac yn ysgrifenydd y blaid Ryddfrydol.

Yr oedd yn ddirwestwr selog ac yn flaenor gyda'r Wesleyaid.

Gedy ar ei ôl briod a llu o berthynasau mewn galar dwfn.

Yr Udgorn 17/02/1915