YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron, Mri. C. H. Lloyd Edwards (cadeirydd), William Thomas a Griffith Evans.

Datganodd y Cadeirydd gydymdeimlad y fainc รข Mr. C. H. Lloyd, Trallwm, ar farwolaeth ei briod, ac a Mr. Arthen O. Owen (clerc) ar farwolaeth ei chwaer. Ymunai Mr. W. Cradoc Davies ar ran y cyfreithwyr a'r Arolygydd Owen ar ran yr heddlu yn y penderfyniad.

Cyhuddwyd Robert Owen, Rivals View, Nefyn, o godi mwy uchafbris dan archebion y bwyd am din o salmon.

Tystiodd Mr. McCarter iddo alw yn y Rivals View a phrynnu tin o salmon am 2s. 2c. Y pris safonol am y cyfryw ydoedd 1s. 11c.

Yn ateb i'r Cadeirydd, dywedodd mai'r uchafbris hyd mis Rhagfyr ydoedd 2s. 6c. Dywedodd Mrs. Owen i'r trafaeliwr a werthodd y salmon iddi ei hysbysu y gallai godi o 2s. 2c. i 2s. 6c. y tin amdano. Prynodd ef ar Mawrth 27.

Rhoddwyd dirwy o 10s.

Gwrthodwyd caniatau costau y cyfreithiwr.

Yr Herald Gymraeg 26/08/1919