Marwolaeth Dr. J. Evans-Hughes, U.H., Nefyn.
Nos Sul diweddaf bu faru Dr. J Evans-Hughes, U. H., Dderwen, yn 73 mlwydd oed, wedi cystudd maith.Mab ydoedd i'r diweddar Dr. H. Hunter Hughes, Penmaen, Pwllheli, a chefnder i Mr. Arthen O. Owen, Cyfreithiwr, Pwllheli. Yr oedd yn ddyn a fawr berchid gan bawb a'i hadwaenai, yn gymeriad tawel a diymhongar, ac yn hynod o garedig wrth y tlawd.
Gedy weddw ac un mab i alaru eu colled ar ei ôl.
Cymer yr angladd le ddydd lau nesaf yn mynwent Abererch - angladd cyhoeddus. Cychwynir o Nefyn am 12-30 o'r gloch.
Yr Udgorn 29/04/1914
MARWOLAETH DR. HUGHES.
Nos Sabboth diweddaf, wedi yn agos i dair blynedd o waeledd, bu i'r hen Dr. fel ei gelwid. ymadaw â'r fuchedd hon, yn 73 mlwvdd oed.Daeth yma o Bwllheli ers dros ddeugain mlynedd yn ôl i ymsefydlu vn ein plith fel meddyg ac wedi rhai blynyddoedd, ymbriododd â merch y diweddar Canon Jones. Llanengan, a chwaer i Colonel Jones.
Bu yn feddyg Dosbarth Nefyn o dan Undeb Pwllheli am flynyddi lawer a phan sefydlwvd y Cyngorau Sirol gyntaf efe oedd y cynrychiolydd cyntaf dros ranbarth Nefyn. Ceidwadwr ac Eglwyswr selog ydoedd. Gwnawd ef a'r diweddar Capt. Thomas Iorwerth yn Ustusiaid Heddwch y Sir yr un adeg; ond oherwydd prysurdeb ei waith a'r iechyd yn pallu ymryddhaodd ef o'r swydd.
Bu adeg yn ei hanes yr oedd ei "bractice" cyn belled ag Uwch-y-Mynydd, Aberdaron. Llafuriodd yn galed iawn. Yr ydoedd yn foneddwr drwyddo ac yn hynod garedig wrth y tlawd. Bu yn feddyg Cyfrinfa yr Odyddion am flynyddoedd lawer a dydd Iau diweddaf hebryngwyd ei weddillion i fynwent Abererch. Angladd cyhoeddus ydoedd. Yr oedd un-ar-hugain o gerbydau ynddo.
Gwelsom Col Lloyd Evans, Broomhall; Col. Lloyd Edwards, Nanhoron. Cynrychiolid yr Anrhyd. F. G. Wynn, Bodvean Hall gan Mr. R. H. Davies, Penybryn. Mri. W.Thomas U.H. Gerallt R. Ellis, Bodlondeb; Dr. Evans, Maer Pwllheli; Dr. R. Lewis, Nefyn; Dr. R. H. Griffith,Nevin ac amryw eraill.
Gwasanaethwyd wrth y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch. R. C. Jones. Nefyn, Canon Jones, Glan Ogwen a Rheithor Abererch. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad â'r weddw a'r teulu gan Bwyllgor Eisteddfod y Gwyr Ieuainc, nos Lun diweddaf. Yr oedd yr ymadawedig yn noddwr iddi er ei sefydliad.
Cydymdeimlir a'r weddw a'i hunig fachgen yn eu profedigaeth lem. a heddwch i'w Iwch hyd ganiad yr Udgorn ydyw ein dymuniad.
Y Genedl Gymreig 05/05/1914
Angladd Dr. J. E. Hughes, Derwen, Nefyn.
Dydd Iau diweddaf hebryngwyd gweddillion marwol y diweddar Dr. J. E. Hughes, Derwen, Nefyn, i orffwys i fynwent henafol Abererch. Angladd cyhoeddus ydoedd.Yr oedd dros ugain o gerbydau, yn cynwys pump o gerbydau modur. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. Cynfelin Jones, ficer Nefyn, ac yn yr Eglwys yn Abererch gan Canon R T. Jones, Glanogwen, a'r Parch. David Jones, y ficer.
Y prif alarwyr oeddynt Mrs. Evans Hughes (gweddw); Mrs. Jones, Glanogwen, a Mrs. Carreg, Aberdaron, Cyrnol Lloyd Evans, U. H., Broom Hall; Mri Arthen O. Owen, Pwllheli, J. Evans Hughes, Pwllheli a'r Parch. Edward Evans (cefndryd) y Parch. R. H. Hughes, Cilcain Mri. C. H Lloyd, U.H., Trallwyn, a D. Fowden Jones, U.H., Eisteddfa (cefndryd i Mrs. Hughes).
Yr undertaker ydoedd Mr. David Wiliiams, Shop Pwlldefaid, Pwllheli.
Yr Udgorn 06/05/1914
FUNERAL OF DR. HUGHES.
The funeral of Dr. J. Evans Hughes, J.P., of Derwen, Nevin, took place on Thursday at Abererch, and was largely attended. The Rev. Cynfelin Jones, vicar of Nevin. officiated at the house, and the Revs. Canon R. T. Jones, Glanogwen, and D. Jones, vicar of Aberereh, at the graveside.The chief mourners were Mrs. Evans Hughes, (widow), Mrs. Jones, Glan-ogwen Mrs. Carreg, Colonel Lloyd Evans, J.P., Broom Hall; Mr. Arthen O. Owen, Mr. J. Evans Hughes, Pwllheli; the Rev. Edward Evans, the Rev. R. H. Hughes, Cilcain; Messrs. C. H. Lloyd, J.P., Trallwm; and D. Fowden Jones, J.P., Eisteddfa.
Among others present were the Revs. H. J. Manley, Llanbedrog; T. Shepherd Jcnes, Llannor; E. Ellis, the former vicar of Nevin; E. Rowlands, curate of Nevin; and T. Woodings, Pwllheli; Dr. R. H. Griffiths, Nevin; Dr. Jones Evans, Pwllheli; Dr. Lewis. Nevin; Dr. S. W. Griffith, J.P., Mr. C. H. Lloyd Edwards, J.P., Mr. R. Ellis, Bodlondeb; Mr. W. Thomas, J.P., Mr. G. F. Yale, Mr. J. G. Jones. J.P., Mr. J. Griffiths, Factory, Mr. Griffith, Ship Inn; Mr. J. G. Jones. Salem Crescent.
About forty lovely wreaths were received.