TRI BRAWD O NEFYN.
Mae gan Mr a Mrs G Parry, Vron, Nefyn, dri mab yn gwasanaethu dan faner eu gwlad.Perthyna Hughie Parry i'r 1-6ed Fattaliwn Royal Welsh Fusiliers, ac y mae ar hyn o bryd yn y Dardanelles. Dyma fel yr ysgrifena adref :-
"Yr wyf yn anfon gair bach eto i chwi gan fawr obeithlo eich bod yn iawn fel fy hunan yn y lle ofnadwy hwn, ond diolch yr wyf i'm Tad Nefol bob cyfle a gaf, a'r hogiau eraill o Gymru, a bechgyn iawn ydynt. Byddem yn diolch fel y medrwn am gael cysgod Ei aden Ef drosom am nerth i fyned dros y mynydd nesaf sydd o'n blaenu. Mae yr hen hogiau wedi ymdynghedu gwneud eu gwaith yn llwyr tros eu gwlad, ac os oes rhywun wedi cael y fraint o roi ei ysgwydd o dau y gwaith yr wyf fi wedi gwneud fy rhan.
Mae Humphrey a Griffith wedi mynd oddiyma i'r hospital fel cannoedd yr un fath a welais. Gobeithio eich bod chwi yna yn gwybod mwy nag wyf fi yn ei wybod.
Gobeithio y gwel fy Nhad Nefol yn dda i mi gael dod yn ôl i lanau Cymru anwyl eto. Buasai yr hen fachgen fy nhad yn edrych yn rhyredd o gael un golwg ar y lle yma i weled patrwm o saethu, a chael un sight ar y man of wars a. ninau y fyddin yn cyrraedd am bellter, a phawb yn cydsaethu o'r mor a'r unwaith nes bydd y mynyddoedd yn diaspedain, ac yn chwalu, a'r hen Dyrcs o dan y malurion, yn ei chael hi. Mae yn bur deneu arnynt erbyn hyn, a'r Germans yn dioddef o eisieu ymborth, a dim llawer i'w gael.
Terfynaf hyn o lythyr y tro hwn. Da fydd genyf gael gair yn ôl oddiwrthych ac oddiwrth rhyw un o fechgyn Nefyn a thipyn o hanes y ffair bentymhor. Faint y pwys oedd y No 8?
Wel nos dawch heno."
Cyrhaeddodd llythyr oddiwrth y mab arall Griffith, o'r Imbarta Hospital, Malta, yn yr hwn y dywed :
"Yr wyf inau erbyn hyn yn well ond fy nghoesau dipyn yn wan, ar ôl bod yn gorwedd am dros chwech wythnos. Dyma i chwi ddarluniau o'r ysbyty. Diolch i Willie Lloyd am y papur newydd. Treuliais amser difyr i'w ddarllen. Yr ymborth yr wyf yn ei gael yw powliad o uwd, a bara ymenyn, te i frecwast; roast beef, pytatws, a phwdin i giniaw; te a dau wy i de; a swper first class. Nid oes genyf ddim arall, ond gobeithio mae hwn yw y llythyr diweddaf o'r fan yma.
Cofion fyrdd at Willie Lloyd, Pen-yr-Allt a Phen-y-Graig a phawb o'm cydnabod.
Ysbryd Glyndwr a Llewelyn,
Wedi llawer canrif faith,
Yn ein gwersyll fyddo'n enyn
Gariad at ein gwlad a'n hiaith—
Dal i gerdded hyd y llwybrau
Dan fanerau'r brwydrau gynt,
Wnawn tra clywir swn y tonau
Hyd ein glannau ar ei hynt.
R. V. GRIFFITH.