MARW GWR HYSBYS.
Dydd Sul bu farw Mr. David R. Wilson, Tremydon, yn ei 59 mlwydd oed. Yr oedd Mr. Wilson yn ŵr llafurus a defnyddiol iawn yn yr ardal. Yr oedd yn ddiacon ac yn arolygwr yr Ysgol Sul yng Nghapel y Methodistiaid. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd Town Trust a'r Gyfnewidfa Lafur.Bydd colled fawr ar ei ôl mewn llawer cylch, a chydymdeimlir a'i deulu yn eu galar.