YNADLYS PWLLHELI.
Gerbron Cyrnol Lloyd Evans ac ynadon ereill.NEWYNU MERLYNOD.
Cyhuddwyd Roberts Jones, Frondeg. Mynydd, Nefyn. o fod wedi ymddwyn yn greulawn at dri o ferlynod mynydd drwy esgeuluso rhoddi bwyd iddynt.Ymddanghosai Mr. S. R. Dew dros yr Arolygydd Walter Snelling, R.S.P.C.A.. a diffynid gan Mr. H. Prichard.
Yr Heddwas Pugh, Nefvn, ddywedodd iddo fyned i'r Frondeg ar y 24ain o Chwefror pryd y gwelodd dri merlyn mewn cae lle nad oedd blewyn o welltglas iddynt. Nid oeddynt ond croen ag esgyrn. Aeth yno trannaeth yng nghwmni yr Arolygydd Snelling.
Dywedodd Mrs. Jones ei bod hi wedi gofyn lawer gwaith i Robert Jones borthi yr anifeiliaid yn lle cerdded o gwmpas a darllen.
Gofynodd R. Jones iddynt basio heibio am y tro. Mr. Snelling ddesgrifiodd gyflwr difrifol yr anifeiliaid. Bron y gallent symud. Nid oedd dim afiechyd arnynt. Dioddefent oddiwrth newyn yn hollol.
G. J. Roberts milfeddyg, dystiodd fod y merlynod yn dioddef yn herwydd diffyg ymborth a dim arall. Trwy fod gan y ferlen gyw dylesid ei phorthi hi yn arbenig. Nid oedd dim yn y cae welodd efe i'r anifeiliaid fyw arno ond yr awyr. Yn ôl pob arwydd nid oedd dim afiechyd o gwbl arnynt. Cedwid anifeiliaid o'r fath allan yn y nos ar dir lle byddai digon o borfa iddynt.
Y diffynydd ddywedodd y byddai efe yn rhoddi eithin a gwair iddynt, ac yn gadael iddynt fyned i'r man y mynent ar y tir oedd ganddo ef. Arferid cadw merlynod mynydd allan yn y nos fel rheol. Darfu iddo ofyn i'r swyddogion beidio ei wysio am y tro hwn.
Mrs Jones, priod y cyhuddedig, dystiodd mai hi roddodd y merlynod yn y cae oherwydd nad oedd R. Jones ddim yn y tŷ ar y pryd. Ofni yr oedd hi iddynt fyned i'r ffordd fawr gan fod ei gŵr wedi cael ei wysio am i'w anifeiliad grwydro. Ni ddywedodd hi fod R. Jones wedi esgeuluso eu porthi. Yr hyn ddywedodd hi oedd fod R. Jones yn bwriadu eu gwerthu rhag cael y drafferth ynglyn a hwynt yn herwydd en bod yn crwydro. Byddid yn rhoddi gwair iddynt. Daethai hi y ferch a'r dyst mewn cerbyd a dvnid gan y ferlen, a daethent o Nefyn I Bwllheli mewn tri chwarter awr.
Yr oedd yr anifeiliaid yn deneu ond nid yn dioddef oddiwrth newyn.
Owen Owen. Gwnys ddywedodd iddo ef weled y ferlen tua phymthegnos yn flaenorol a'i bod yn edrych yn weddol a dywedodd Richard Davies Tyn-y- coed, Rhydyclafdy iddo weled y ddau ferlyn arall a'u bod yn chwarau fel dau oen.
Dirwy: 10s, costau 3p. 6s.
Genedl Gymreig 14/04/1914
CYHUDDO DYN O NEWYNU MERLOD MYNYDD.
Dydd Mercher yn ynadlys Pwllheli (gerbron Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd), Mri. Maurice Jones, G. Hughes Roberts, W. Anthony, J. Hughes Parry, Dr. Gwenogfryn Evans, a Dr. R. Jones Evans) cyhuddai yr Arolygydd Snelling, Robert Jones, Frondeg, Nefyn, o arfer creulondeb at tri o ferlod. Erlynai Mr. Dew, Bangor, a Mr. Hugh Pritchard yn amddiffyn.Eglurai Mr. Dew fod yr heddwas Pugh wedi galw i weled yr anifeiliaid ar Chwefror 24. Yr oeddynt mewn rhan o faes lle nad oedd dim gwellt, ac yr oedd rhai ohonynt yn swp o groen ac esgyrn. Mewn gair yr oeddynt wedi eu newynu yn llythrenol. Yr oedd cywion gyda rhai o'r merlod. Galwodd ef ar Arolygydd Snelling gyda'r diffynydd, a dywedai ei fod yn rhoddi peth gwair iddynt, ond cyfaddefai eu bod wedi eu hesgeuluso ac addawai beidio a gwneyd tro o'r fath eto. Dywedai gwraig y diffynydd ei fod yn gwrthod a rhoddi bwyd i'r merlod, yr oedd yn well ganddo ddarllen a cherdded o gwmpas. Pwysai arnynt i faddeu iddo am y tro.
Tystiai yr Heddwas Pugh nad oedd y maes yr oedd yr anifeiliaid arno yn mesur ond hanneh acer. Ni allai y merlod ond prin gerdded. Yr oeddynt yn druenus o deneu. Mewn atebiad i Mr. Hugh Pritchard dywedai fod y merlod yn dipyn o drwbl i'r ardal, ac yr oedd ef wedi erlyn y diffynydd am eu gadael i grwydro. Buasai yn dda ganddo ef ac eraill gael ymadael a hwynt.
Ategai yr Arolygydd Snelling ei fod wedi cael y ceffylau yn ddim ond croen ac esgyrn, ac yr oeddynt yn methu a cherdded. Yn ystod yr 20 mlynedd o brofiad oedd ganddo ni welodd rai mewn cyflwr mor druenus.
Cadarnheid yr uchod gan Mr. E. Jones Roberts, meddyg anifeiliaid, ac mewn atebiad i Mr. Hugh Pritchard, dywedai mai nid yn ansawdd y tir yr oedd y drwg, ond ym mhrinder y tir a ganiateid iddynt. Nid oedd ef yn credu fod canoedd o ferlod mynyddig yn Lleyn mewn gwaeth cyflwr na'r rhai hyn.
Dywedai Mr. Hugh Pritchard mai merlod y mymydd oeddynt. Yr oeddynt fel rheol yn byw yn gwbl ar y mynydd, ond yr oedd y rhai hyn yn cael gwair ac eithin a'u rhoddi i mewn y nos.
Tystiai y diffynydd fod un o'r merlod yn edrych braidd yn deneu am ei bod yn un dda am fagu. Yr oedd y ferlen wedi dod i'r dref y diwrnod hwnw mewn cerbyd gyda thri ynddo mewn tri chwarter awr o amser.Yr oedd yn rhoddi gwair ac eithin iddynt.
Tystiai Mrs. Jones, gwraig y diffynydd, nas oedd yr anifeiliaid, bron llwgu fel y dywedid. Nid oedd hi yn cofio iddi ddweyd fod ei gwr yn cerdded o gwmpas ac yn darllen yn hytrach na bwydo yr anifeiliaid. Nid oedd ei gwr yn neilltuol o hoff o ddarllen.
Mr. Dew : Pa lyfrau fydd ef yn darllen?
Mrs. Jones : Ei Feibl, syr (chwerthin).
Mr. Dew : Yr oeddwn yn medddwl mai dyn felly ydoedd (chwerthin).
Tystiai Mr. Owen Owens, Gwynys, Pistyll, ei fod ef arfer a magu merlod mynydd. Yr oedd gan y diffynydd well tir i fagu merlod nag ef, ac yr oedd y merlod mewn cyflwr canolig pan welodd ef hwy.
Dywedai Mr. Richard Davies, Tynycoed, Rhydyclafdy ei fod wedi gweled y merlod bythefnos yn ôl. Yr oedd y rhai ieuengaf yn chwarae fel wyn, ond yr hynaf yn edrych braidd yn deneu am ei bod yn magu.
Rhoed 10s o ddirwy a'r costau yn gwneyd cyfanswm o £3 16s.
Herald Gymraeg Gymreig 14/04/1914
Llys Ynadol Pwllheli Dydd Mercher, Ebrill 8fed.
Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (cadeirydd) yr Henaduriaid Maurice Jones, G. Hughes Roberts, W. Anthony, Dr Gwenogfryn Evans, Dr R. Jones Evans, a J. H. Parry, Ysw.Dim ond Croen ac Esgyrn.
Cyhuddid Robert Jones, Frondeg, Nefyn, o ymddwyn yn greulon at dri cheffyl o'i eiddo, gan yr Arolygydd Snelling, swyddog i'r Gymdeithas tuag at Atal Creulondeb at Anifeiliaid. Erlynid ar ran y Gymdeithas gan Mr S. K. Dew, Bangor, ac amddiffynid gan Mr Hugh Pritchard.Gwadai y cyhuddedig ei fod yn euog. Dywedai yr arolygydd nad oedd y tri merlyn wedi cael digon o ymborth, ac nad oeddynt yn ddim amgen na chroen ac esgryn. Ni welodd anifeiliaid mor druenus eu cyflwr yn ystod ei brofiad o ugain mlynedd. Tystiwyd gan G. J Roberts, y milfeddyg, a chan yr Heddwas Pugh. Yr oeddynt yn ddifrifol o denau, meddai Pugh, ac nid oedd y cae y porent arno ond haner acer.
Dywedai Mr Hugh Pritchard, tros yr amddiffyniad, mai tri merlyn mynydd oeddynt, y rhai gaent eu dwyn i fynu fel defaid mynydd, ac nid oeddynt yn cael eu cyfyngu i'r haner acer o dir yn unig gadewid iddynt grwydro i'r caeau eraill a rhoddid iddynt wair ac eithin yn yr ystabl dros nos.
Galwyd amryw dystion dros yr amddiffyniad, ond dirwywyd y cyhuddedig i 10s. gyda 3p. 6s. o gostau.